I nodi Wythnos Cymru Llundain, byddwn yn clywed gan Bute Energy, cwmni ynni adnewyddadwy o Gymru, sy’n gwneud i dywydd Cymru weithio dros Gymru drwy’r buddsoddiad busnes mwyaf yn yr economi gwledig ers cenhedlaeth.
Datblygodd Bute Energy biblinell sy’n arwain y farchnad o brosiectau Parciau Ynni yng Nghymru, fydd yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf o ran ynni gwynt ar y tir i helpu i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru er mwyn i drydan y wlad fod yn 100% adnewyddadwy erbyn 2035. Maent wedi’u hymrwymo i sicrhau bod cymaint o fuddsoddiad yn aros mor lleol ag y bo modd. Bydd pob contract a ddyfarnir yn ystod y cyfnod datblygu ac adeiladu yn gweld partneriaid yn llwyr arddel Safon Gwerth Cymdeithasol, sydd â’r nod o gadw cymaint ag y bo modd o’r buddsoddiad yng Nghymru er budd cymunedau lleol.
Bydd y prosiectau’n creu miloedd o swyddi, byddant yn rhoi miliynau o bunnau'r flwyddyn i gronfeydd cymunedol a byddant yn helpu cymunedau gwledig i fod yn barod ar gyfer dyfodol sero net. Hyn oll gan helpu i ostwng biliau ynni yn y cyfnod hir - ynni gwynt ar y tir yw un o’r mathau rhataf o drydan ar y grid.
Mae’r digwyddiad hwn drwy wahoddiad yn unig. Fodd bynnag, a fyddech cystal ag anfon e-bost at drefnydd y digwyddiad am ragor o wybodaeth, os gwelwch yn dda: Michelle.Byrne@Bute.Energy