Mae’r Tîm Llwyfan yn eich gwahodd i ymuno â ni am noson o ymlacio wrth sgwrsio, cysylltu a chyfnewid syniadau ar gyfer newid.
Rydym yn falch i ddychwelyd am y drydedd flwyddyn yn olynol yn Wythnos Cymru Llundain ar gyfer cyfle arall i bobl ddod ynghyd i ganfod ffyrdd ymlaen ar gyfer cenhadaeth ar y cyd am newid.
Rydym am barhau i adeiladu momentwm wrth i ni ganfod rhwydwaith a chymuned ar gyfer cysylltiadau, adfer a newid.
Mae’r cynulliad hwn yn cynnig sgyrsiau braf, cysylltiadau gwerthfawr a myfyrio. Rydym yn dwyn ynghyd arweinyddion diwydiant, gwneuthurwyr newid cymdeithasol, a chefnogwyr o’r sector preifat, cyhoeddus a’r trydydd sector – i gyd â’r un diddordeb i wneud pethau’n wahanol.
Rydym yn deall nerth gweithio ar y cyd wrth symbylu’n cenhadaeth am newid cadarnhaol.
Ymunwch â ni am y noson, wrth i ni gydnabod ac adeiladu’n hymdrechion ar y cyd tuag at ymagwedd fwy trugarog i iechyd meddwl a llesiant.