• Dyddiad
    25th Chwefror 2025 at 02:00yp
  • Man cyfarfod
    1 Adelphi Terrace London, England, WC2N 6AU
  • Gwesteiwr
    PureCyber
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Fel rhan o Wythnos Cymru Llundain, bydd PureCyber ac ACCA yn arddangos swyddogion proffesiynol cyllid Cymreig sydd yn arwain yr agenda seibr yn eu sefydliadau a dwyn ynghyd gydweithwyr, aelodau a’r gymuned Gymraeg i rwydweithio a dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn Llundain.

Ymunwch â ni ym mhencadlys ACCA ar gyfer lluniaeth ysgafn a chyflwyniadau o 2.00yp - 4.00yp, ac yna Derbyniad Dydd Gŵyl Dewi, a noddwyd yn garedig gan Blake Morgan, o 16.00yp -18.00yh yn Smith Wollensky. (Mae’r ddau fan cyfarfod yn yr Adelphi Building).

Dyma’ch cyfle i gIywed gan aelodau ACCA sydd yn arwain yr esblygiad diogelwch seibr o fewn eu sefydliadau. Byddan nhw’n trafod esiamplau gwirioneddol o’r heriau mae sefydliadau wedi’u gwynebu a gorchfygu i wella eu hylendid seibr. Dyma sesiwn na ddylid ei cholli.

Rhaglen:

2.00yp – Croesawu, lluniaeth ysgafn a rhwydweithio

2.30yp – Araith groeso: Lloyd Powell, Pennaeth ACCA Cymru

2.40yp – Trosolwg a Thirlun Risg: Damon Rands, Prif Weithredwr, PureCyber

3.00yp - C&A gydag aelod panel ACCA

Areithwyr:

· John Young FCCA - CFO, Cymdeithas Bêl-droed Cymru

· Rachael Ball FCCA - Cyfarwyddwr, LHP Accountants

· Steve Ades FCCA – Prif Swyddog Strategaeth, AerFin

· Robert Merrills FCCA - CFO, PureCyber

4.00yp - 6.00yp – Rhwydweithio a Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi a noddwyd gan Blake Morgan

Bydd y digwyddiad yn cloi gyda derbyniad diod a chanapes byd-enwog Smith & Wollensky i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Cyfle ar gyfer rhwydweithio pellach a meithrin cysylltiadau ar draws y gymuned.

Tocynnau cyfyngedig ar gael – neilltuwch eich lle cyn gynted a gallwch.

Mae’r llefydd yn y digwyddiad yn rhad ac am ddim a’r cyntaf i’r felin fydd hi.