• Dyddiad
    28th Chwefror 2022 at 06:30yp
  • Man cyfarfod
    Barbican, Silk St, Barbican EC2Y 8DS
  • Gwesteiwr
    Welsh Sports Association
  • Categori
    Chwaraeon

Buddsoddi ym maes Chwaraeon Cymru

Mae Cymdeithas Chwaraeon Cymru yn gwahodd y rheini sydd â diddordeb ym maes chwaraeon Cymru i fynychu derbyniad gyda’r hwyr yn y Barbican Centre, fel rhan o Wythnos Cymru Llundain.

Bydd y croeso gyda diodydd yn dechrau am 18.30pm ar 28 Chwefror 2022, ac yna drafodaeth banel ar ‘Buddsoddi ym maes Chwaraeon Cymru’.

Mae ein panel gwych yn cynnwys:

· Richard Davies – arbenigwr hawliau’r cyfryngau ac adloniant a chwaraeon rhyngwladol

· Dylan Pugh – Rheolwr Gyfarwyddwr Sports Industry Group

· Noel Mooney - CEO, Cymdeithas Bêl Droed Cymru

· Victoria Ward - CEO, Cymdeithas Chwaraeon Cymru

O fewn y drafodaeth, bydd ein panelwyr yn canolbwyntio gan mwyaf ar y pynciau canlynol:

· Bydd rhaid i ddeiliaid hawliau a phartneriaid masnach arloesi er mwyn cadw’n berthnasol mewn tirlun cyfryngau a defnyddwyr sydd yn newid.

· Rhaid i nawdd esblygu o ymarferion bathodynau, dylai fod pwrpas ac effaith gymdeithasol yn sgil nawdd chwaraeon.

· Mae ariannu cyfleusterau ar lawr gwlad, nawdd, costau datblygu yn hanfodol i gynyddu chwaraeon.

· Daw buddsoddi haelionus dim ond pan fydd chwaraeon yn dechrau nodi fel bod yn achos da.

Y cyn chwaraewr sboncen rhyngwladol, Adrian Davies, fydd wrth lyw’r drafodaeth a’r C&A.

Bydd y digwyddiad yn berthnasol i bawb sydd yn ymwneud â chwaraeon Cymreig – o’r rheini sydd ar y brig, i’r rheini ar lefel llawr gwlad.

Os oes gennych ddiddordeb ym maes chwaraeon Cymru, yna dyma’r digwyddiad i chi – edrychwn ymlaen at eich gweld yno.