• Dyddiad
    4th Mawrth 2024 at 02:00yp
  • Man cyfarfod
    techUK, 10 St Bride Street, London EC4A 4AD
  • Gwesteiwr
    techUK
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Ymunwch â ni ar Fawrth 4 am 14:00 i glywed gan arbenigwyr diwydiant blaenllaw ar sut y bydd Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Cymreig yn sail gadarn ar gyfer arloesi yn y dyfodol.

O gyfathrebu, gofal iechyd, cynaladwyedd ac adloniant, gall Lled-ddargludyddion drawsnewid technoleg y Deyrnas Unedig (DU); ymunwch â ni i glywed yr hyn y gall y DU ei ddysgu gan lwyddiant y clwstwr hwn.

Ni fydd hyrwyddo meysydd AI, Quantum Computing, cyfathrebu 5G, Cerbydau Trydan na thechnoleg hapchwarae dros yr ychydig degawdau nesaf yn bosib heb dechnoleg Lled-ddargludyddion. Defnyddir technoleg lled-ddargludyddion i ffurfio cydrannau hanfodol mewn dyfeisiau electronig, gan greu cyfle enfawr ar gyfer twf ac arloesedd yn ne Cymru.

Mae de Cymru yn gartref i glwster Lled-ddargludyddion Cyfansawdd cyntaf y byd, gan arloesi gweledigaeth Lled-ddargludyddion Cyfansawdd y DU. Gyda Strategaeth Lled-ddargludyddion Genedlaethol yn amlinellu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd fel un o dri cryfder craidd y DU, yn ogystal â rhan allweddol lled-ddargludyddion ym maes technoleg y DU, mae Clwstwr De Cymru yn brif fodel o ran sgiliau, buddsoddiad a chydweithio.

O ddiwydiannau megis datgarboneiddio, Cerbydau Trydan, Gofod a Gofal Iechyd, mae gan glwstwr de Cymru ran aruthrol i’w chwarae yn uchelgeisiau technoleg y DU a’r byd fel ei gilydd.

Ymunwch â ni ochr yn ochr â’r rheini sydd yn hyrwyddo’r sector hwn, megis IQE (i’w gadarnhau) a Csconnected (wedi’i gadarnhau) i glywed eu mewnwelediadau safon y byd ar draws agenda ddiddorol.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Beth yw Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a pham eu bod nhw’n bwysig i ddyfodol diwydiannau a sectorau sydd a’u canolfannau yn y DU?
  • Pam y bu sector Lled-ddargludyddion Cyfansawdd De Cymru mor lwyddiannus, a sut wnawn ni sicrhau’r un llwyddiant i ranbarthau eraill?
  • Beth yw’r heriau a’r cyfleoedd sydd yn wynebu’r sector hwn wrth gyflawni gweledigaeth y DU i fod yn arweinydd lled-ddargludyddion?

Cymdeithas masnachu yw techUK sydd yn dwyn pobl, cwmniau a sefydliadau ynghyd i wireddu canlyniadau positif o’r hyn y gall technoleg digidol ei gyflawni. Gydag oddeutu 1,000 o aelodau (y rhan fwyaf ohonynt yn SMEs) ar draws y DU, mae techUK yn creu rhwydwaith ar gyfer arloesedd a chydweithio ar draws fusnes, llywodraeth a rhanddeiliaid i ddarparu dyfodol gwell i bobl, cymdeithas, yr economi a’r blaned.

Drwy ddarparu arbenigrwydd a mewnwelediad, cefnogwn ein haelodau, partneriaid a rhanddeiliaid wrth iddyn nhw paratoi’r DU i’r hyn a ddaw nesaf mewn byd sydd yn newid yn gyson.