O lansio Cyfalaf Buddsoddi Arloesedd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ym mis Tachwedd, rydym yn defnyddio’r fenter Gymreig flaenllaw hon yn Llundain i ddwyn ynghyd buddsoddwyr a buddsoddeon i glywed am y cyfleoedd i ddefnyddio cyfalaf amyneddgar i ffynnu.
Gan ganolbwyntio ar y cyfleoedd yng Nghymru, ond yn berthnasol i unrhyw leoliad, bydd ein panel o fuddsoddwyr yn rhoi’u safbwyntiau am yr hyn yr ydyn nhw’n edrych amdano wrth ystyried buddsoddiad, sut y dylai cwmniau gefnogi’u nodau ESG, a rhai o’r heriau mae cwmniau’n eu hwynebu y tu allan i Lundain.
Gwnawn hefyd fwrw golwg arbennig ar yr hyn y mae hyn yn ei olygu i angylion buddsoddi benywaidd a’r sefydlwyr / entrepreneuraid benywaidd maen nhw’n buddsoddi ynddyn nhw. Yn ogystal, gwnawn glywed gan gwmni buddsoddai ar ei daith cyn belled.
Yn ogystal â gwrando ar ein panel o arbenigwyr, bydd cyfle i rwydweithio gyda chyfoedion enaid hoff gytun dros ddiod a chanapés.