Ymunwch â ni yng Nghanolfan Brofiad Lutron yn ystod Wythnos Cymru Llundain ar gyfer digwyddiad trochi a fydd yn arddangos dyfodol mannau gweithio a chartrefi ill dau.
Bydd Pugh Computers Ltd, IoD Cymru, Lutron a Microsoft yn gweithio ar y cyd i ddangos sut y gall technoleg mannau cyfarfod hybrid, modern, sgriniau rhyngweithiol, nodweddion arbed ynni a goleuadau call weddnewid unrhyw amgylchedd. Hefyd fe fydd trafodaeth banel gan arbenigwyr diwydiant.
Boed a ydych yn arweinydd ym myd addysg, perchennog busnes, gweithiwr poffesiynol ym maes lletygarwch, rheolwr cartref gofal, neu gynllunydd cartref llawrydd, bydd y digwyddiad hwn yn cynnig mewnwelediadau gwerthfawr o ran creu mannau cyfforddus, cynhyrchiol, cynaliadwy a chynhwysol i bawb.
Beth am rwydweithio ag arweinwyr diwydiant, profi technolegau arloesol a chael eich ysbrydoli gan y posibliadau y mae’r rhain yn eu cynnig.