Mae Gofal Canser Tenovus yn dod â Golff Gourmet i Wythnos Cymru Llundain!
Golff ydyw, ond nid yr un arferol! Ddydd Iau 5 Mawrth, bydd timau o 4 yn mwynhau profiad bwyta coeth wrth i chi daclo’r unig gwrs yn y DU a ddyluniwyd gan Seve Ballesteros, The Shire.
Wedi’n cefnogi gan Asbri Golf, byddwn yn dod â’r cogyddion seren Michelin a’r cynhyrchwyr gorau o Lundain at ei gilydd, gyda stondinau bwyta ar hyd y cwrs, gan gynnwys:
- The Hawksmoor
- Fiftybuns
- Atelier smoked salmon
- Camellia’s Tea House
- Loyal Tavern
- Riding House café
- Paul Rhodes Bakery
- Glacon Minuty Wine
Mae’n argoeli bod yn ddiwrnod anghredadwy o fwyd a diod flasus, a rownd ryfeddol o golff ar y cwrs a ystyrir yn brofiad golff #1.
Bydd y timau i gyd wedyn yn mynd i’r clwb am BBQ arbennig drwy garedigrwydd The Shire Golf Club.
Cynhelir ein digwyddiad yn yr hwyr gan Guto Harri, a bydd gennym hefyd ddiddanwch, ocsiwn a cherddoriaeth fyw i ddod â’r diwrnod ardderchog hwn i ben.
Bydd y digwyddiad unigryw hwn er budd Gofal Canser Tenovus, gan weithio gyda Hospitali-tee, yn gwella iechyd a lles gweithwyr lletygarwch proffesiynol drwy fuddion golff i helpu hybu gostwng straen a hybu ffitrwydd.
Eich pecyn tîm Golff Gourmet….
Mynediad tîm yw £1,000 ar gyfer pedwar o bobl neu £250 yr unigolyn – gyda gostyngiad Nadolig o £800 ar gyfer pedair pêl neu £200 y person os neilltuir lle cyn 1 Ionawr 2020:
Beth sy’n cael ei gynnwys ym mhris eich tocyn?
- Brecwast drwy garedigrwydd The Shire
- Diwrnod cyfan o golff ar yr unig gwrs a ddyluniwyd gan Seve Ballesteros
- Cyfleoedd rhwydweithio gyda chyfranogwyr eraill uchel eu proffil, cefnogwyr o fri a’n Noddwyr
- Anrheg croeso unigryw drwy garedigrwydd Asbri Golf
- Bwyd a diod archwaethwyr ar hyd y cwrs, gan amrywiaeth o gyflenwyr bwyta coeth Llundain
- Tocyn cyfarch i’n digwyddiad gyda’r hwyr, gan gynnwys adloniant, raffl a cherddoriaeth fyw yng nghlwb y Shire
- bydd holl enillion y digwyddiad yn mynd tuag at helpu cleifion cancr a’u teuluoedd yn y gymuned drwy wasanaethau cymorth cancr unigryw.
Neilltuwch eich llefydd yn gyflym . . . !
Os oes unrhyw gwestiynau gennych, am glywed am ein pecynnau noddi neu hoffech neilltuo lle yn y digwyddiad unigryw hwn, cysylltwch â’n Alexandra Smith drwy ddefnyddio’r ddolen e-bost uchod neu ffonio 029 2076 8863.