Ar ddiwrnod cyntaf Wimbledon 1981, cyrhaeddodd y seren dost, Richard Burton (yn 56 oed ar y pryd) yng nghartref ei chwaer Cis yng Ngogledd Llundain i aros gyda hi er mwyn gwella o lawdriniaeth sbinol i arbed ei fywyd. Yno cyfarfu â’i or-nai Guy sy’n 19 mlwydd oed.
Maen nhw’n meithrin cyfeillgarwch annhebygol tra’n gwylio’r tenis. (Dyma flwyddyn John McEnroe). Yn rhyfedd prynodd Richard Mini Cooper S coch ond mae’n rhy wanllyd i’w yrru, felly gwna Guy hynny yn ei le.
Gan fod angen i Richard drosglwyddo’i gar i’w gartref yn y Swistr, gofyna i Guy ei yrru gydag ef yn deithiwr ynddo… I feithrin tipyn o ramant, gwahodda merch y mae Guy dros ei ben a’i glustiau mewn cariad â hi, Helen o Abertawe – fel y gall chwarae Ciwpid… Daw’r daith 12 diwrnod yn ddigwyddiad allweddol ym mywyd ifanc Guy wrth i’r tri ohonyn nhw ddiflannu i’r machlud.






































