Croeso Cymreig cynnes i Gonwy!
Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiad byw gyda’r nos yn cynnwys llawer o hwyl, antur, newyddion a bod un o’r rhai cyntaf i chwarae - Gosodwch eich Geifr mewn Rhes - y bugail cyflymaf i ennill cyfle i gael basged deuluol o roddion a chynnyrch Cymreig.
Bu ein geifr Cymreig Pen y Gogarth enwog yn llawn o hwyl a direidi yn ystod y cyfnodau cyfyngiadau symud hyn, yn rhodio’r strydoedd, a heb mewn gwirionedd gadw at y pellter cymdeithasol ond yn mwynhau amryw dameidiau tecawê o glawdd!
Allwch chi ein helpu i osod y geifr mewn rhes? Mae eich angen arnom!
Cymerwch rhan yn y cwis hwn a bod y cyntaf i’n helpu i osod ein geifr mewn rhes, neu llenwch y cae a chael y praidd cyfan i mewn!
Bydd dau enillydd i’r digwyddiad hwn. Un enillydd fydd y person cyntaf i osod y geifr mewn rhes gwastad neu serth cyn datfudo’i meicroffon a gweiddi’r gair “goat”. Yr ail enillydd fydd y cyntaf i gael yr holl braidd yn ôl i mewn cyn datfudo’i meicroffôn a gweiddi’r gair “goat”.
Caiff y ddau enillydd rhywbeth braf o’n siop ar-lein Dewch i Gonwy newydd sbon – www.shopcony.wales. Caiff yr enillydd cyntaf anrheg ar y thema geifr a bydd yr ail enillydd yn cael basged deuluol yn llawn o roddion Cymreig a chynnyrch lleol.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Gonwy cyn gynted a ryddheir y cyfyngiadau symud. Yn y cyfamser, mae gennym bopeth sydd ei angen arnoch i’ch helpu cynllunio’ch ymweliad nesaf i Gymru a’i wneud yn brofiad gwych.
Yn ystod y noson, fe’n cymerwn ni chi hefyd ar daith o gwmpas Conwy i chi ganfod am ein hantur, treftadaeth, diwylliant a bwyd a diod.
Yn ogystal byddai o werth i chi ymweld â’n gwefan (www.visitconwy.org.uk) i’ch helpu dod o hyd i nifer o syniadau bendigedig ar gyfer eich taith nesaf i’n rhanbarth 😊
Wedi’i gynnwys fel rhan o’r digwyddiad bydd bwletin newyddion cyntaf Sir Conwy i chi gael y newyddion diweddaraf am y pethau cyffrous y gallwn gynnig i chi wrth ymweld â’r sir.