Caerdydd, prif ddinas Cymru, yw un o’r dinasoedd yn y Deyrnas Unedig sydd yn tyfu ar y raddfa fwyaf ac mae hefyd yn lleoliad buddsoddi blaengar ymysg Dinasoedd Craidd y Deyrnas Unedig.
Mae’r ddinas yn gyfranogwr pwysig i’r economi Cymreig, a yrrir gan ganol y ddinas deinamig a Bae ailgyfodol a sectorau twf allweddol, gan gynnwys gwasanaethau cyllid a thechnoleg ariannol; diwydiannau creadigol a diwylliannol; lletygarwch a hamdden a gweithgynhyrchu uwch.
Mae buddsoddwyr yn amlygu apêl momentwm twf Caerdydd a sylfaen doniau, lle mae gan oddeutu dau ddraean o’r boblogaeth radd neu gyrhaeddiad cyfwerth.
Mae’r ddinas hefyd yn gyrchfan digwyddiadau ac ymwelwyr blaengar, gan ddenu digwyddiadau corfforaethol ac academaidd, diwylliannol a champau uchel eu proffil.
Mae’r ddinas yn awyddus i ddenu buddsoddiad pellach, ac mae’r arddangosfa hon yn gyfle gwych ar gyfer buddsoddwyr newydd a’r rheiny sydd eisoes yn bod ynghyd â Llysgenhadon Cynhadledd, sydd ar hyn o bryd yn hyrwyddo’r ddinas ar gyfer digwyddiadau busnes, ac i glywed oddi ar brif siaradwyr sydd yn hyrwyddo buddsoddiad pwysig ac adfywiad yn y ddinas dros y tair i bum mlynedd nesaf.
Bydd hyn yn cynnwys prosiectau drwyddi draw yn y ddinas ynghyd â chyfle i glywed oddi ar entrepreneuraid ifanc sydd hefyd wedi buddsoddi yn seilwaith y ddinas ochr yn ochr â chwmnïau rhyngwladol mawr.