Bu’n gyfnod anodd a, mewn llawer achos, mae pobl ddawnus yn ei chael yn anodd dod o hyd i swyddi newydd.
Ymunwch â’r Hyfforddwr Gweithredol & Gyrfa, Dr Geraint Evans, mewn sesiwn weminar C&A yn cyflwyno cyngor ymarferol i’ch cefnogi wrth chwilio am swydd.
Nod y sesiwn yw ateb eich holl gwestiynau ynglŷn â dod o hyd i swydd a gwella eich brand personol yn ystod y pandemig byd-eang hwn.
Cofrestrwch drwy ddefnyddio’r ddolen e-bost a ddarperir uchod – caiff dolen gyda manylion y weminar ei hanfon atoch cyn i’r digwyddiad ddechrau.