• Dyddiad
    1st Mawrth 2021
  • Man cyfarfod
    Ar-lein
  • Gwesteiwr
    The Aloud Charity
  • Categori
    Adloniant a Chymdeithasol

Rydym am i chi ymuno â ni i ganu, i greu un côr rhithiol enfawr i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Mae’r holl wybodaeth am sut i fod yn rhan o ‘Everyone Aloud’ yn y ddolen a’r testun isod.

https://youtu.be/toCTBamJDPI

Mae gennym gymysgedd o dair cân: yn gyntaf, fersiwn fer o drefniant Only Boys Aloud o’r gân Gymraeg Sosban Fach, ac yna ddwy gân gan Max Boyce y mae wedi’n caniatáu i’w defnyddio ar gyfer y prosiect hwn - Up and Under a’r Hymns and Arias ffantastig. Bydd Sosban Fach yn y Gymraeg a dwy gân Max Boyce yn y Saesneg - rhan fwyaf o’r amser - felly os nad ydych yn siarad Cymraeg, beth am roi cynnig arni a smalio gwybod beth yr ydych yn ei wneud!

Mae dau ran y gallech eu canu, y dôn, neu’r rhan harmoni. (Wrth gwrs byddem wrth ein bodd petaech yn hapus i wneud y ddau!) Rydym angen i chi:

  1. Gwylio’r fideo perthnasol (tôn neu harmoni)
  1. Gwisgwch glustffonau a chael y sgôr / geiriau’n barod ar un sgrin i ddarllen ohono.
  1. Recordiwch eich hun ar ffôn, tabled neu gamera gwahanol, gan sicrhau ei fod yn y fersiwn tirlun – neu at yr ochr.
  1. Anfonwch y fideo hwnnw atom drwy glicio’r ddolen http://bit.ly/everyonealoud erbyn dydd Llun 22 Chwefror.

Gwnawn roi’r fideos at ei gilydd i greu côr rhithiol arbennig iawn ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi. Os hoffech wisgo dilledyn coch neu ddaffodil, croeso i chi wneud hynny!

Mae’r ddolen i gyflwyno’ch fideos hefyd isod yn y bocs (yn y fideo). Rydym am i bawb ymuno â ni, lleisiau meibion, lleisiau merched, lleisiau plant – yn syml, canwch yn y traw rydych yn gysurus ynddo. “Everyone’s Aloud!!”

Cofiwch – gall pawb ganu!

Beth am roi cynnig arni – rydym yn addo eich cyflwyno’n canu’n soniarus!

Beth am ddychmygu eich bod yn y gawod, neu hyd yn oed yn well, ar y teras yn gwylio rygbi!

Os cewch unrhyw broblemau neu oes cwestiynau gennych, anfonwch e-bost atom ar hello@thealoudcharity.com, ac edrychwn ymlaen at gael eich fideo.

Y terfyn amser ar gyfer cyflwyniadau yw canol nos Lun 22 Chwefror.

Mwynhewch, a phob lwc!