• Dyddiad
    3rd Mawrth 2025 at 07:00yp
  • Gwesteiwr
    Ashoka & The Watson Foundation
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Fel rhan o Wythnos Cymru Llundain, rydym wrth ein bodd yn ymuno â Victoria, Ian, a Lucinda Watson o’r Watson Foundation, yn eu cartref yn Llundain, lle gwnawn groesawu Cymrawd Ashoka, Lisa Wilkins, sefydlydd gweledigaethol DigVentures.

Bydd y cinio’n gyfle anhygoel i gysylltu ag unigolion mewn sefyllfa hamddenol tra’n dysgu mwy am waith carreg filltir Lisa o ran datblygu cynaliadwy ac archaeoleg a yrrir gan y gymuned.

Drwy DigVentures, bu Lisa yn grymuso cymunedau i adennill eu treftadaeth, gan greu newid ystyrlon drwy fforiadau cynhwysol a chadwraeth y gorffennol.

Mae ganddi gynlluniau cadarn ar gyfer Cymru.

Fel Ashoka Fellow, mae Lisa wedi ymroddi i feithrin llwybrau sydd yn blendio arloesedd, budd cymdeithasol, a pharch dwfn ar gyfer cymunedau lleol. Yn y cinio, bydd yn rhannu’i thaith a mewnweliadau, gan ddarparu safbwynt unigryw ar sut y gallwn oll gyfrannu at adeiladu dyfodol fwy cynaliadwy – drwy archaeoleg, ie, ond hefyd drwy unrhyw waith sydd yn pontio’r rhwygau cymdeithasol ac amgylcheddol.

Er mai nod y noson yw mwynhau sgwrs ysbrydoledig, bwyd blasus a chwmni pobl anhygoel, gobeithio hefyd, y bydd yn gyfle i gefnogi Lisa a’i gwaith hanfodol.