Bydd cwmni technoleg Cymreig Vortex IoT, gyda rhai o'i bartneriaid allweddol (Dell, Tata, ST) yn rhoi golwg ystyriol o bwysigrwydd yr 'Aer yr ydym yn Anadlu', ac yn egluro sut y bydd technolegau ac arloesedd sy'n dod i'r amlwg yn cyfrannu at ein anghenion cymdeithasol newidiol.
Mae'r Llywodraeth ac awdurdodau lleol ar draws y byd yn dod o dan bwysau deddfwriaethol cynyddol i fonitro ansawdd yr aer yn well, ac i ddefnyddio a rheoli 'parthau awyr glân' yn weithredol ar draws ein dinasoedd.
Erbyn 2050 bydd symudiad y boblogaeth yn golygu y bydd 70% o boblogaeth y byd yn byw mewn ardaloedd trefol. Mae'r newid aruthrol hwn yn gyrru mentrau Smart City ar draws y byd.
Ar hyn o bryd nid oes gan 44% o gynghorau y DU allu i fonitro aer a llygredd pwrpasol (The Independent, 2017). Gyda Chynllun Ansawdd Aer llymach yn dod i rym, mae cynghorau'n wynebu dirwyon sylweddol os nad ydynt yn cydymffurfio.
Gan ddefnyddio technolegau sy'n dod i'r amlwg, mae Vortex IoT wedi datblygu cynnyrch Monitro Ansawdd Aer (AQM) newydd sydd hefyd yn darparu cyfleoedd cynhyrchu refeniw i awdurdodau lleol, ac o ganlyniad bydd yn cyfrannu at greu modelau busnes trefol newydd sy'n hanfodol wrth i siâp ein trefi a dinasoedd newid dros amser.
Ynghyd â Vortex IoT bencadlys Abertawe, bydd ST Engineering of Singapore, Tata Steel a Dell EMC yn mynychu'r digwyddiad, ac yn cymryd rhan yn y noson wrth roi trosolwg o'r byd i ddod.
Date TBC.
-
Dyddiad25th Chwefror 2019
-
Man cyfarfodTBC
-
GwesteiwrVortex IoT
-
CategoriBusnes, diwydiant a thechnoleg
-
Dolenni Defnyddiol