Hoffwn eich gwahodd i’n digwyddiad Wythnos Cymru Llundain unigryw.
Mae adnabod a meithrin arweinwyr y dyfodol yn broses mwy cymhleth fyth waeth pa fath o sefydliad yr ydych yn ymwneud ag ef. Mae’r heriau modern yn anferthol. Mae’r rhain yn cynnwys twf AI, amrywiaeth a chynhwysiant, gweithio o bell a thimau rhithiol, gwahaniaethau diwylliannol cenedliadol, cyfrifoldeb moesol a chymdeithasol, arddulliau arwain sy’n esblygu a chynllunio olyniaeth i enwi rhai ohonynt.
Felly, sut mae ateb y heriau hyn? Sut wnewch chi greu ac ymwreiddio diwylliant sydd yn magu arweinwyr y dyfodol ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf?
Os ydych ond yn mynychu un digwyddiad arweinyddiaeth yn yr ychydig fisoedd i ddod, yna dyma’r un ichi . Beth am fod yn bresennol a chlywed gan dri o sefydliadau mwyaf mawreddog Cymru sef PwC, Cymdeithas Pêl-Droed Cymru a Call of the Wild.
Yn ystod trafodaeth banel ac yna C ac A, cewch glywed rhai mewnweliadau ymarferol ar sut i feithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr; pa drafferthion bu rhaid eu goresgyn a pha atebion arloesol a ymwreiddiwyd i fynd i’r afael â nhw.
Os oes diddordeb gennych mewn dysgu mwy am arwain y dyfodol drwy feithrin y genedlaeth nesaf, yna dewch i wrando a chymryd rhan yn y sesiwn C ac A.
Mae’r digwyddiad hwn yn addas i’r sawl sydd â diddordeb neu angen di-oed yn ymwneud â meithrin arweinwyr uchelgeisiol.
Manylion an y panelwyr maes o law.
Cofrestrwch am y digwyddiad drwy ddefnyddio’r botwm uchod.