Mae Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD), yr IWA a Chymdeithas Ddysgedig Cymru yn eich gwahodd chi i noson o ddadlau a rhwydweithio fel rhan o Wythnos Cymru yn Llundain.
Rhaglen:
Cyflwyniad – Syr Emyr Jones Parry - Llywydd, Cymdeithas Ddysgedig Cymru
Bydd panel yn mynegi barn a chreu trafodaeth ar:
- Dyfodol economi Cymru – Yr Athro Gerald Holtham, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
- Cymru: cenedl fyd-eang - Dr Elin Royles, WISERD, Prifysgol Aberystwyth
- Y gymdeithas sifil yng Nghymru – Yr Athro Paul Chaney, WISERD, Prifysgol Caerdydd
- Polisi, gwleidyddiaeth a datganoli – Auriol Miller, Cyfarwyddwr yr IWA
Sylwadau i gloi gan yr Athro Ian Rees Jones. Cyfarwyddwr WISERD
Ar ôl y drafodaeth, gobeithiwn bydd modd i chi ymuno â ni am ddiodydd, blysion a rhwydweithio.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Swyddog Digwyddiadau WISERD, Jane Graves, ar WISERD.events@cardiff.ac.uk