• Dyddiad
    27th Chwefror 2025 at 08:00yb
  • Man cyfarfod
    Arup, 80 Charlotte Street W1T 4QS
  • Gwesteiwr
    Office of the Future Generations Commissioner and Arup
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

A yw gofyniad cyfreithiol i ystyried cenedlaethau’r dyfodol yn newid sut mae’r sectorau cyhoeddus a phreifat yn gosod nodau ac yn blaenoriaethu buddsoddiadau?

Ymunwch â ni am frecwast a thrafodaeth am sut mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol arloesol Cymru yn dylanwadu ar bolisi ac arfer.

Wedi’i drefnu i nodi deng mlynedd ers Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, bydd mynychwyr yn clywed gan:

Bydd y Fonesig Nia Griffith AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru yn rhannu sylwadau agoriadol.

Mae panelwyr yn cynnwys:

  • Petranka Malcheva, Arweinydd Polisi yn Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
  • Catherine Mealing Jones, Prif Swyddog Gweithredol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
  • Gary Davies, Cyfarwyddwr Ffyrdd a Strydoedd, ARUP
  • Llywodraeth Cymru
  • UN Futures Lab

Bydd y digwyddiad yn gorffen am 10:00am a bydd gweithdy opsinol yn dilyn rhwng 10:00am a 11:00am.

Mae’r gweithdy hwn wedi’i dargedu at lunwyr polisi ac eiriolwyr sydd â diddordeb mewn archwilio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn fanylach.

Bydd yn rhoi trosolwg manwl o’r ddeddfwriaeth, sut y mae’n gweithredu’n ymarferol, a’r gwersi allweddol a ddysgwyd o’i gweithredu yng Nghymru. Bydd cyfranogwyr yn cael y cyfle i drafod ei effaith, heriau, a llwyddiannau, yn ogystal ag archwilio sut y gellid cymhwyso dulliau tebyg mewn gwledydd eraill i gefnogi penderfyniadau hirdymor, cynaliadwy.

Mae mynediad am ddim, ond mae angen cofrestru ymlaen llaw drwy ‘Archebu Eich Lle’.

8.00am – brecwast a rhwydweithio

8.30am – digwyddiad yn dechrau

9:30am – trafodaeth ffurf yn dod I ben

10:00am – digwyddiad yn gorffen

10:00am – 11:00am – gweithdy opsiynol Cenedlaethau’r Dyfodol