• Dyddiad
    3rd Mawrth 2026 at 10:00yb
  • Man cyfarfod
    The Fable
  • Gwesteiwr
    CSconnected
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Lled-ddargludyddion yw’r cydrannau sylfaenol sydd yn tanategu’r technolegau sydd yn llunio pob agwedd o fywyd modern, o AI a seilwaith data, i ynni glân, cyfathrebu datblygiedig ac amddiffyn. Mae’n nhw’n allweddol yn strategol, yn uchel o ran dwyster cyfalaf a gwybodaeth, sydd yn golygu mai dim ond nifer fechan o ranbarthau byd-eang sydd â’r seilwaith, arbenigedd ac ecosystem sydd eu hangen i gystadlu’n effeithiol.

Bydd y sesiwn frecwast, yn cael ei chynnal fel rhan o Wythnos Cymru Llundain, yn archwilio sut mae cadwyn cyflenwi lled-ddargludyddion cyfansawdd de Cymru yn unigryw yn y byd ac yn gyfranogwr strategol allweddol i sofraniaeth dechnegol y Deyrnas Unedig.

Cewch glywed sut y gwnaeth de Cymru sefydlu clwstwr lled-dargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd, gan gyflenwi cadwyn gyflenwi pen-i-ben diogel a gwydn gydag enw da yn rhyngwladol am rhagoriaeth. Gan ddwyn ynghyd maes academia, busnes a llywodraeth, mae’r clwstwr mewn lle unigryw i helpu’r DU raddio’i galluedd yn y dechnoleg sylfaenol hon, gan gefnogi pump o’r wyth maes blaenoriaeth sydd wedi’u gosod yn strategaeth diwydiannol Llywodraeth y DU.

Bydd y sesiwn yn cyfuno mewnwelediad strategol gyda phrofiad byd gwirioneddol, gan ganolbwyntio ar sut mae’r clwstwr eisoes yn cyflenwi effaith, a sut, gyda’r polisi a chefnogaeth fasnachol briodol, gall yrru ysbryd cystadleuol byd eang mewn diwydiant sydd wedi’i ddarogan i gyrraedd $1 triliwn erbyn 2030.