• Dyddiad
    19th Mawrth 2021 at 04:00yp
  • Man cyfarfod
    Ar-lein
  • Gwesteiwr
    Cymdeithas Chwaraeon Cymru
  • Categori
    Chwaraeon

Hoffech chi fod yn rhan o griw rhithiol anffurfiol ar y noson cyn penwythnos gemau terfynol y 6 Gwlad?

Os hoffech chi fod, byddwch yn barod gyda gwydraid o rywbeth erbyn 4 o’r gloch (amser DU) ddydd Gwener 19 Mawrth ar gyfer #COUNTMEIN - seminar allgymorth byd-eang wedi’i drefnu gan Gymdeithas Chwaraeon Cymru (WSA) i lansio menter gyffrous wedi’i chreu i annog gweithwyr proffesiynol o bob maes bywyd, sydd â chysylltiad cryf â Chymru, i ymwneud â’r fenter fel gwirfoddolwyr proffesiynol.

Yn ganolog i’r prosiect mae Banc Gwybodaeth ar-lein , lle gall gweithwyr proffesiynol wneud ‘ernes’ cyn lleied ag un diwrnod o’u hamser a’u doniau.

Nid dynion a merched chwaraeon fydd yn cynnig y rhain yn unig, ond entrepreneuwyr a dylanwadwyr Cymreig a all wneud cyfraniadau gwerthfawr ar ystod eang o bynciau, gan gynnwys marchnata, y cyfryngau cymdeithasol, cyfrifed, datblygu busnes, llywodraethu, etc.

Gwnaiff hyn alluogi chwaraeon a sefydliadau - gyda phwyslais arbennig ar hyrwyddo chwaraeon i bobl ifanc - i dynnu rhywfaint allan o’r Banc Gwybodaeth a galluogi chwaraeon yng Nghymru i ‘ailadeiladu’n well’ ôl pandemig Covid-19.

Bydd sesiwn C&A un awr, ar-lein yn digwydd ddydd Gwener 19 Mawrth – ar brynhawn cyn y diwrnod bydd Cymru, gobeithio, yn ennill y Gamp Lawn.

Bydd gwestai rygbi arbennig yn ymuno â ni, ac yn barod rydym wedi cael cadarnhad gan:

  • Jamie Baulch – rhedwr Olympaidd sydd bellach yn gyflwynwr a chodwr cyllid llwyddiannus.
  • Ty Francis – Prif Swyddog Cynghorol ac aelod o’r tîm gweithredol yn LRN Corporation, ymgynghoriaeth llywodraethu corfforaethol a moeseg. Ty hefyd yw sylfaenydd Cymru Efrog Newydd ac mae wedi creu rhaglen noddi i chwaraeon menywod a merched yng Nghymru.