• Dyddiad
    4th Mawrth 2022 at 06:00yp
  • Man cyfarfod
    Ar-lein
  • Gwesteiwr
    L’Amuse Chez Kate in partnership with First of March
  • Categori
    Bwyd A Chrefftau

Bydd Kate yn arddangos sut i baratoi a choginio amryw o brydau bwyd, gan ddefnyddio cynhwysion lleol, a rhannu’i phrofiad o weithio mewn rhai o lefydd bwyta ceinaf y wlad yn ogystal â rhedeg ei sefydliad ei hunan yn y Mwmbwls.

O fod yn berchennog / pen-cogydd un o fwytai ceinaf Abertawe am saith mlynedd, mae Kate Probert wedi ennill enw da am baratoad perffaith, cyflwyniadau manwl a chyflenwadau cyson o ddull coginio o ansawdd.

Mae Kate yn rhedeg ysgol goginio yn y Gŵyr ac wedi cyflenwi cyrsiau ar-lein, trwy gydol y pandemig, a fu’n hynod o boblogaidd.