• Dyddiad
    4th Mawrth 2021 at 07:00yp
  • Man cyfarfod
    Ar-lein
  • Gwesteiwr
    ND Pharmacy
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Ymunwch â ni am drafodaeth panel llawn gwybodaeth a C&A yn archwilio’r cyfleoedd a’r heriau amrywiol yn wynebu fferylliaeth gymunedol yng Nghymru.

Siaradwyr gwadd:

Gyda’r pecyn ariannu teirblwydd, £18.3m, sydd wedi’i gytuno gan Lywodraeth Cymru a chynrychiolwyr fferyllfeydd cymunedol, yn awr yn fwy nag erioed, cafodd fferyllwyr eu cydnabod am eu rôl hanfodol yn ein cymunedau a’r gefnogaeth a ddarparant i’r GIG.

Bydd ein siaradwyr gwadd yn trafod yr hyn y mae’r arian yn ei olygu ar gyfer:

  • Technoleg well o fewn y diwydiant
  • Cyfleoedd gwell i fferyllwyr cymunedol arweiniol ym maes clystyrau gofal sylfaenol
  • Cymorth hyfforddi i fferyllwyr ddod yn rhagnodwyr annibynnol
  • Mwy o fynediad i gofnodion meddygon teulu Cymru
  • Argaeledd pellach o fferyllwyr o fewn byrddau iechyd
  • Integreiddio parhaus a chynyddol â’r GIG a chefnogi modelau iechyd arloesol

Darpara’r cynllun hir dymor hwn rywfaint o gydnabyddiaeth haeddiannol iawn i fferyllwyr cymunedol, ac er ei fod yn dod â chyfleoedd, pa heriau y gallwn hefyd eu disgwyl a sut allwn eu goresgyn i sicrhau y gallwn gefnogi trawsnewid rôl y fferyllwyr cymunedol yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf.

Wnewch chi gadarnhau’ch llefydd drwy’r ddolen e-bost a ddarperir uchod.