• Dyddiad
    29th Chwefror 2024 at 10:00yb
  • Man cyfarfod
    RIBA, 66 Portland Place, London W1B 1AD
  • Gwesteiwr
    Pensaer and RSAW
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Diwrnod yn dathlu rhan penseiri Cymru.

Yn cynnwys Trafodaeth Frecwast a Thrafodaeth Ford Gron, Gweithdy Myfyrwyr yn y prynhawn ac Arddangosfa gyda’r hwyr.

Am y drydedd flynedd yn olynol, mae Pensaer yn cynnal digwyddiad pensaernïol ar gyfer Wythnos Cymru Llundain. Yr un fath â 2023 byddan nhw’n cynnal arddangosfa gyda’r hwyr (7.00yh - 11.00yh), gan arddangos gwaith penseiri Cymru, sydd â chysylltiad â’r ddinas.

Yn digwydd yn y brif neuadd, Florence Hall, yn yr RIBA. Ymunir â ni hefyd gan artistiaid o First of March, gyda gosodwaith gan Ruth Petersen.

TRAFODAETH FRECWAST

Pensaerniaeth a Chrefft - 10.00yb - 12.00yp

Yn ymwneud â’r thema 'pensaerniaeth a chrefft', byddwn yn archwilio gwaith penseiri ac artistiaid Cymru, sut fyddant yn cydweithio. Yn dechrau gyda 15-munud o gwrdd a chyfarch am 10.00yb.

Bydd pum siaradwr gennym a chadeirydd i hwyluso trafodaeth. Bydd pob siaradwr yn siarad am 10-15 munud. Yna bydd trafodaeth rhwng y cadeirydd a’r siaradwyr, ac yna sesiwn C+A gyda’r rhai sydd yn bresennol.

Canlyniad y digwyddiad fydd dealltwriaeth well ynghylch y pwnc, a chyfle i rannu gwybodaeth.

GWEITHDY PRYNHAWN

Sgiliau Gwneud Modelau / Portreadau Bychain - 2.00yp - 5.00yp

Digwyddiad yn ymwneud â myfyrwyr fydd hwn, gyda gweithdy dwy awr o hyd / allbwn dylunio brasluniau; cyn hynny bydd cyfarwyddwyd 15-munud, gydag adolygiad 45-munud ar y diwedd.

Y cynnyrch fydd modelau braslun-3D, a chaiff y rhain eu harddangos yn yr arddangosfa gyda’r hwyr.

ARDDANGOSFA GYDA’R HWYR

7.00yh - 11.00yh

Bydd yr arddangosfa yn dangos gwaith penseiri ac artistiaid Cymru. Bydd cyflwyniad 10-munud am 7.30yh. Bydd y cyflwyniad yn cynnwys lansiad manifesto’r RSAW.

Croeso i bawb.