Mae Oriel Trefdraeth Sir Benfro yn cynnal ei nawfed Wythnos Gelf Cymreig, sydd yn gyfle cyffrous iawn i ddetholiad sefydledig o gelf Cymreig i’w weld mewn un man cyfarfod yn Llundain, i ddathlu diwylliant Cymreig drwy gelf.
Eleni bydd y thema sydd yn rhedeg drwy’r gwaith newydd yn cynnwys ‘Cadwraeth’, a phwysigrwydd talu sylw at ddiogelu’n amgylchedd drwy gelf.
Bydd yr arddangosfa hon sydd yn cyd-ddigwydd gyda Dydd Gŵyl Dewi yn cynnal sawl diwrnod o ddigwyddiadau celf, lansiadau llyfrau a nosweithiau diwylliant Cymreig, a phleser unwaith eto yw bod yn rhan o Wythnos Cymru Llundain, yn hyrwyddo popeth Cymreig yn y ddinas.
Mae gennym restr pobl cyffrous iawn. Ar Fawrth 1 am 7.30yh agorir ein noson lansio gan Jamie Owen, Awdur Cymreig a Darlledwr, a fydd yn trafod yn ein digwyddiad cyntaf am ei lyfr Sir Benfro a chawn hefyd gwmni’r Delynores Gymreig, Marian O'Toole, a fydd yn canu cerddoriaeth Gymreig draddodiadol.
Ddydd Iau 2 Mawrth, byddwn yn croesawu telynores ifanc Gymreig arobryn – Heledd Wynn Newton, sydd yn astudio cerddoriaeth yn Rhydychen a’r delyn gyda Catrin Finch. Enillodd Heledd yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen yn 2022, ac amryw o wobrau mewn gwyliau miwsig lleol a’r Eisteddfod Genedlaethol.
Byddwn hefyd yn sgwrsio gyda graddedigion Celfyddyd Gain o Goleg Sir Benfro, eu gwaith rydym yn ei arddangos ar gyfer Wythnos Gelf Llundain.
Pleser hefyd fydd gweinyddi pice ar y maen arobryn a gwin Cymreig Llaethlliw Welsh o’i gwinllan yn Aberaeron; dewis rhagorol o luniaeth ysgafn wrth i westeiwyr fwynhau’r gwaith celf!
Bydd Arddangosfa Wythnos Gelf Cymreig yn digwydd am 5 diwrnod o 10.00yb tan 5.00yp yn ddyddiol, a bydd yn darfod ddydd Sadwrn 4 Mawrth am 3yp. Edrychwn ymlaen at eich croesawu!
Yr arlunwyr a fydd yn arddangos eu gwaith fydd: Wynmor Owen, Peter Morgan, Jacqueline Jones, Saoirse Morgan, Martin Llewellyn, David Humphreys, Alice Tennant, Denis Curry, Gillian McDonald, Jane Corsellis, Graham Hurd-Wood, Tim Fudge, Lilwen Lewis, Mike Jones, Anne Kerr, Heather Nixon, Barbara Simon, Sarah Poland, Jo Lowde, Adam Buick, Clare Rose, Lyndon Thomas, Neil Mason, Maggie Brown, Sally James Thomas, Mary Lace, Caroline McLachlan, Neil Mason, Ro Croxford, Zara Kuchi, Daniel Backhouse, Wim Van de Wege, Annette de Mestre, Hugo Colville, Neill Curran, Beryl Morgans, Sallie Wakley, Andrew McCutcheon, Paul Crofts, Angharad Taris, Michelle Dovey, Julian King-Salter a Perryn Butler.