• Dyddiad
    9th Mawrth 2023 at 12:00yp
  • Gwesteiwr
    Cardiff University
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Yn y digwyddiad hwn, bydd Prifysgol Caerdydd yn lansio eu sefydliadau ymchwil ac arloesedd.

Bydd eu sefydliadau yn archwilio pum prif faes lle gall ei hymchwil wneud gwahaniaeth gwirioneddol i genedlaethau cyfoes a dyfodol yng Nghymru, y DU a thu hwnt. Byddant yn galluogi ymchwil ac arloesedd ar raddfa fawr ac sydd yn uchel ei ryngddisgyblaeth, gan ddod ag academyddion o ystod eang o ddisgyblaethau i archwilio a mynd i’r afael â rhai o heriau mwyaf ein hoes.

Dyma gyfle i gwrdd â staff o’r:

- Sefydliad Arloesedd Trawsnewid Digidol
- Sefydliad Arloesedd Sero Net
- Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl
- Sefydliad Arloesedd Diogelwch, Trosedd a Chuddwybodaeth
- Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau

i ddysgu am eu nodau a’u gweithgareddau sydd ar y gweill, ac i drafod cyfleoedd ar gyfer cydweithio ym meysydd sydd o ddiddordeb i fynychwyr.