• Dyddiad
    28th Chwefror 2022
  • Man cyfarfod
    On-line
  • Gwesteiwr
    Austin Macauley
  • Categori
    Celfyddydau A Diwylliant

Ar ddiwrnod cynnes o wanwyn yn y 1950au, mae Jason sydd yn ddeuddeg mlwydd oed, unig blentyn o Ganolbarth Lloegr, yn cyrraedd am wyliau mewn pentref bach ar lan y môr lle roedd ei dad yn byw pan oedd yn blentyn. Gan aros gyda’i wncwl a’i anti, ei fwriad yw archwilio’r creigiau pan fo hi’n drai, rhywbeth roedd ei dad yn hoffi gwneud. Cyn hir mae’n cwrdd â Joe, hen ŵr a oedd unwaith yn arbenigwr o bysgotwr o’r lannau hynny. Mae Joe yn ei ddysgu, wrth iddo ddisgrifio o’i gof, gynllun a chyfrinachau’r creigiau. Wrth iddo ddechrau archwilio’r arfordir, daw Jason yn swil ar draws Abby, merch ifanc, fywiog o Awstralia. Wrth i’w cyfeillgarwch dyfu, daw hi i’r casgliad bod ganddo gyfrinach a’i fod yn dianc rhag rywbeth nad yw’n dymuno’i drafod. Wrth i’w hyder dyfu, daw Jason yn gamstar ar ddal pysgod cregyn. Eto daw ar draws anawsterau annisgwyl, hyd yn oed yn y lleoedd hardd hyn, a bydd rhaid iddo ddibynnu ar ei adnoddau newydd i wrthsefyll y rhwystrau posib sydd o’i flaen . . .

Magwyd C D Pressdee yn y Mwmbwls ac aeth i Ysgol Ramadeg Bishop Gore yn Abertawe, yna i Brifysgol Cymru, Caerdydd lle bu’n astudio Economeg, gan ennill Gradd Anrhydedd (Economeg) BSc.

Gan gyfuno diddordeb mewn busnes gyda’i angerdd gydol oes, dechreuodd fusnes bwyd y môr yn allforio pysgod cregyn i ran fwyaf o’r gwledydd Ewropeaidd.

Ei fwyty, The Oyster Perches, oedd y cyntaf yn Abertawe i ymddangos yn y Good Food Guide 1974 ac enillodd fri am ddefnyddio cynnyrch lleol o Gŵyr a de Cymru. Yn nyddiau hwyr 1975, agorodd y Drangway yn ardal hynaf Abertawe (Drangway—gair lleol am lôn gul). Cafodd ei gynnwys yn Michelin gyda Red M, y Good Food Guide ac Egon Ronay.

Yn nyddiau hwyr y 1980au, symudodd i fewn i farchnata, gan ymgymryd â nifer o ymgynghoriadau ar gyfer yr Enterprise Initiative, a daeth yn ymgynghorydd rhestredig gydag Ysgol Fusnes Cranfield. Ymgymerodd ag ymgynghoriadau a hybu bwyd ledled y Deyrnas Unedig ac Ewrop. Cynhaliodd ddigwyddiadau bwyd yn y Senedd Ewropeaidd, ym Mrwsel; yn Llysgenhadaeth Prydain, Paris; yr Wŷl Geltaidd Rhyngwladol yn Lorient, Llydaw a threfnodd parti bys a bawd ar y traeth i 500 yng Ngŵyl Ffilm Teledu Mipcom yn Cannes.

Yn y 1990au, cymerodd rhan mewn nifer o orchwylion yn Yemen, gan weithio ar gyfnewidfaoedd diwylliannol gyda’r Cyngor Prydeinig yn Sana’a ac Aden, a theithio trwy rhan fwyaf o ranbarthau’r wlad. Yn ddiweddar, cynhaliodd ymgynghoriaeth bwyty a gwesty estynedig yn Bali, Indonesia.

Yn ystod yr adeg honno, ysgrifennodd hefyd yn rheolaidd i’r Western Mail, Daily Post, The Times, Financial Times a nifer o gyhoeddiadau eraill. Enillodd Wobr Glenfiddich yn 1990 fel Ysgrifenwr Rhanbarthol y Flwyddyn.

Mae ei lyfrau bwyd yn cynnwys: Streetwise Cookery, Welsh Coastal Cookery, Food Wales a London Oyster Guide.

Ffuglenni cynharach yw: Reflections of a Vampire a Devil’s Recipe.

Cymerodd rhan mewn nifer o gyfresi a rhaglenni radio a theledu, gan gynnwys Floyd on Great Britain a A Feast of Floyd. Cyfranodd yn wythnosol i Streetlife ar BBC Radio Wales, a theledu BBC Wales See You Sunday, a Summer Scene BBC2, yn fyw o’r Ŵyl Arddio yng Nglynebwy. Cyflwynodd Nightbites ar ITV a Hedgerow Harvest ar UKTV.