• Dyddiad
    3rd Mawrth 2021 at 10:00yb
  • Man cyfarfod
    Ar-lein
  • Gwesteiwr
    Menzies
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Y Tu Hwnt i Brexit – beth fydd y dyfodol i fusnesau Cymru?

Yn ystod y weminar un awr hon, bydd ein panel o arbenigwyr yn cynnig eu mewnwelediad i sut all busnesau ar draws Cymru wneud synnwyr o’r ad-drefnu bywyd corfforaethol mwyaf am genhedlaeth a’r cyfleoedd a’r heriau yn y dyfodol sydd wedi codi yn sgil Brexit a’r pandemig Covid-19.

Yn ystod y sesiwn, bydd y panel yn trafod a dadlau’r canlynol:

  • Effaith y berthynas masnach sydd yn newid – beth yw’r heriau a’r cyfleoedd yn y dyfodol? Sut efallai y disgwyliwn i’r berthynas DU-UE newid dros y misoedd i ddod?
  • P’un ai a yw canolbwyntio ar Brexit neu Covid-19, yr ymagweddau gwahanol a gymerwyd rhwng Lloegr a Chymru, wedi amlygu perthynas sydd yn amlwg dan straen ac yn gynyddol rwygo. Beth mae busnes Cymreig yn ei ddymuno / ei angen?
  • Beth yn rhagor y gall unigolion a busnesau Cymru ei wneud i lywio’u ffordd yn y byd newydd hwn?

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i ddigwyddiad sydd yn addo bod yn drafodaeth graff a bywiog.