Golygydd Clasuron Jane Aaron yn sgwrsio â’r Dr Elizabeth Edwards.
Mae Clasuron Menywod Cymru yn dod ag ysgrifeniadau menywod dawnus Cymru yn y gorffennol i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr - Cambrian Pictures yw’r degfed teitl ar hugain i’w gyhoeddi yn y gyfres.
Bydd Jane Aaron yn siarad am hanes ac ethos y Clasuron. Bydd Elizabeth Edwards yn rhoi mewnwelediad i ni o’r Ann of Swansea gyfareddol a’i nofel Cambrian Pictures.
Byddwn wedyn yn agored i gwestiynau gan y gynulleidfa.
Bydd disgownt llyfr, i bob un sydd yn cofrestru i’r digwyddiad, ar unrhyw glasur a brynwyd trwy www.honno.co.uk
Gan wau at ei gilydd y pynciau rhywedd, rhyddid, pŵer a throseddau, comedi moesau ac ymarweddiad yw Cambrian Pictures (1810) Ann Julia Hatton, gyda bwriad difrifol.
Gan dynnu ar ysgrifeniadau teithio domestig ac ymddangosiad y Gothig, Cambrian Pictures yw un o nofelau Cymreig cryfaf y Mudiad Rhamantaidd.
Bu Ann Julia Hatton yn byw yn Llundain am nifer o flynyddoedd: yn sgil trafferthion ariannol enbyd enillodd fywoliaeth fel ‘model’ mewn puteindy ac yn ddiweddarach fe geisiodd ei lladd ei hun yn Abaty San Steffan. Bu hefyd yn byw yn yr Unol Daleithiau cyn ymgartrefu yn Abertawe.
Mae Jane Aaron yn Athro Emeritws Llenyddiaeth ym Mhrifysgol De Cymru, ac yn olygydd Clasuron Menywod Cymru, a gyhoeddwyd gan Honno Gwasg Menywod Cymru.
Mae Elizabeth Edwards yn Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, a golygydd Cambrian Pictures i Glasuron Menywod Cymru.
Wedi’i drefnu gan Honno Gwasg Menywod Cymru.
Gyda diolch i Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, a Chyngor Llyfrau Cymru.