Mae Athletau Cymru, Tîm Cymru Gemau’r Gymanwlad a Mauve Group ar y cyd yn falch i’ch croesawu i noson o chwaraeon, busnes a diwylliant Cymreig – yn cynnwys areithwyr chwaraeon enwog, sydd ar flaen y gad dros Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Anrhydedd yw cyhoeddi’r Farwnes Tanni Grey-Thompson fel un o’n prif siaradwyr yn y digwyddiad. Mae’r Farwnes Tanni yn Baralympian arwrol, wedi ennill 11 o fedalau aur mewn Pump o Gemau Paralympaidd, a gosod 30 o recordiau byd trwy gydol ei gyrfa wrth rasio mewn cadair olwyn. Y tu hwnt i’w llwyddiannau athletaidd nodedig, mae'r Farwnes Tanni yn eiriolwr ymroddedig dros gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym myd chwaraeon, busnes a gwleidyddiaeth. Fel aelod o Dŷ’r Arglwyddi, mae’n parhau i hyrwyddo’r egwyddorion hyn, gan weithio tuag at ddyfodol mwy cynhwysol i bawb.
Yn ymuno â’r Farwnes Tanni bydd Christian Malcolm, rhedwr Cymreig sydd wedi ymddeol bellach, hyfforddwr athletau clodfawr, ac eiriolwr dros gynhwysiant ac amrywiaeth ym myd chwaraeon. Mae Christian wedi cynrychioli Prydain Fawr mewn sawl Gemau Olympaidd a Gemau’r Gymanwlad, a Phencampwriaethau’r Byd, yn ystod ei yrfa athletaidd – gan ganolbwyntio ar y 200 metrau. Fel hyfforddwr, mae wedi cyfrannu’n sylweddol i ddatblygiad athletwyr ifanc ac fe enillodd ar y cyd Wobr Hyfforddwr Personoliaeth y Flwyddyn BBC Sports yn 2017 am ei ran yn llwyddiant ras gyfnewid Tîm Prydain Fawr ym Mhencampwriaeth Athletau’r Byd.
Bydd y Paralympian a phencampwr taflu maen sydd yn meddu ar record y byd yn y disgyblaeth hwn, Aled Siôn Davies OBE, hefyd yn sgwrsio ar y noson. Yn 2012, enillodd Aled Siôn Davies record y byd yn y gamp taflu maen F42 ac enillodd medal efydd yn y taflu maen a medal aur yn nhaflu’r ddisgen yng Ngemau Paralympaidd Haf 2012. Yng Ngemau Paralympaidd Haf 2016 Rio, enillodd Davies fedal aur yn y taflu maen F42, gan osod record Paralympaidd newydd.
Bydd ein panel gwych yn trafod pwysigrwydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, ac yna ceir sesiwn C&A gyda’r gynulleidfa, lle cewch y cyfle i’w holi am eu llwyddiannau, gyrfaoedd rhyngwladol a hyrwyddo cydraddoldeb. Peidiwch a cholli’r cyfle i glywed am eu teithiau eithriadol a dysgu sut all Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yrru llwyddiant ym myd chwaraeon a busnes fel ei gilydd.
Cewch glywed hefyd gan Brif Swyddog Gweithredol Tîm Cymru, Rebecca Edwards-Symmons, Prif Swyddog Gweithredol Athletau Cymru, James Williams, a Phrif Swyddog Gweithredol Mauve Group, Ann Ellis, ar sut mae chwaraeon a busnes Cymru yn chwalu rhwystrau ac yn meithrin diwylliant hygyrch, hyblyg a chynhwysol i bawb.
Caiff gwesteion fwynhau bwyd Cymreig o Gwmni Tidy Kitchen, Caerdydd, a diod newydd gan gwmniau fel Tiny Rebel ac In the Welsh Wind. Bydd cyfleoedd rhyngweithio allweddol, wrth i ni fwynhau diddanwch cerddorol Cymreig, mewn amgylchoedd ysblennydd un o eglwysi canol oesol unigryw Llundain.
Rydym yn cynnig nifer cyfyng o docynnau i’r cyhoedd ar gyfer y digwyddiad hwn na ddylid ei golli – anfonwch e-bost at events@mauvegroup.com os hoffech fod yn bresennol!