• Dyddiad
    22nd Chwefror 2022 at 06:00yp
  • Man cyfarfod
    Barbican, Silk St, Barbican EC2Y 8DS
  • Gwesteiwr
    Call of the Wild
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Noson o Fusnes, Chwaraeon a Cherddoriaeth

Golwg ar arweinyddiaeth drwy brism chwaraeon a busnes - fformat cwestiwn ag ateb gyda phanel o arbenigwyr, ac yna, gymanfa ganu fechan, gyda’r cyfansoddwr neilltuol Bronwen Lewis.

Felly noson Gymreig nodweddiadol o drafod pynciau llosg y dydd o ran busnes, chwaraeon a cherddoriaeth.

Gobeithio ymunwch yn y canu, a fydd yn eich cymryd yn ôl i hen wlad eich tadau!

Mae ein panelwyr yn cynnwys:

Dr Barrie Kennard, Pennaeth Ymarfer Proffesiynol, Call of the Wild

Barrie oedd Prif Weithredwr Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymru (LMW) o’r dechrau’n deg yn 2008. Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chyllid Cymdeithasol Ewrop, pwrpas LMW oedd darparu gwybodaeth, teclynnau ac adnoddau i arweinyddion a rheolwyr yng Nghymru i’w galluogi i ddod yn arweinyddion a rheolwyr gwell.

Yn LMW dyluniodd Barrie, a rhoi ar waith, werthusiad gwladol o Raglenni Datblygu Arweinyddiaeth a Rheolaeth yng Nghymru.

Dechreuodd ei yrfa yn British Telecom fel peiriannydd ond symudodd yn ddiweddarach i faes hyfforddi a datblygu yn y sector gwirfoddol cyn dod yn bennaeth hyfforddiant yn y grŵp papurau newyddion Western Mail & Echo. Symudodd i academia ym 1998, pan ymunodd ag Ysgol Addysg Prifysgol Caerdydd. Yn 2007 daeth yn bennaeth Ysgol Fusnes Caerdydd a safodd yno tan 2015.

Mae yn rheolaidd yn siarad mewn cynadleddau a seminarau a bu’n gweithio yn Pacistan, Uganda a Zambia ar brosiectau adeiladu capasiti gyda’r Cyngor Prydeinig. Bu’n gweithio hefyd yn Tsieina , lle cafodd ei wahodd i ddarlithio ar dechnegau rheoli. Yn fwy diweddar bu’n ymwneud â chyflenwi rhaglenni datblygu arweinyddion i amryw o gleientiaid y sector cyhoeddus a phreifat yn y Deyrnas Unedig, yn ogystal ag yng Nghanada, Mecsico ac Unol Daleithiau America.

Dr Carol Bell

Bu Carol Bell yn ymwneud â’r diwydiant ynni am dros 40 o flynyddoedd, gan weithio i gwmnïau E&P, fel bancwr buddsoddi a dadansoddwr ecwiti.

Ym 1997 daeth Carol yn Gyfarwyddwr Rheoli Banc Buddsoddi Chase Manhattan, gyda chyfrifoldeb dros olew a nwy, a chyn hynny roedd yn Bennaeth Byd Eang Tîm Ynni J.P. Morgan ym maes Ymchwil Ecwiti a Phennaeth Ymchwil Ecwiti Ewropeaidd.

Yn bellach mae’n treulio mwy o amser ar y pontio i ddyfodol sero net carbon ac mae’n un o sefydlwyr gyfarwyddwyr Chapter Zero (y rhwydwaith ar gyfer NEDau i ymwneud â risg hinsawdd).

Hefyd ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr anweithredol Bonheur ASA, BlackRock Energy & Resources Income Trust a Tharisa. Mae Carol hefyd yn gwasanaethu ar fyrddau Cymdeithas Pêl Droed Cymru, Banc Datblygu Cymru (wrth lyw ei Bwyllgor Buddsoddi), Cadeirydd Hafren Scientific ac yn Aelod Cyngor Research England.

Mae ei hymwneud â’r byd elusennol yn cynnwys, Cadeirydd yr Ysgol Brydeinig yn Athens, Trysorydd y Sefydliad ar gyfer Astudiaethau ‘Archaeometallurgical’, Is-lywydd Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Dirprwy Gadeirydd Canolfan Mileniwm Cymru ac Ymddiriedolwr Amgueddfa Llundain.

Yn ddarlledwr rheolaidd yng Nghymraeg ar faterion yn ymwneud â busnes, mae wedi eistedd ar Awdurdod S4C, corff llywodraethu’r Sianel Deledu Iaith Gymraeg.

Personoliaeth chwaeaeon Cymru i’w gyhoeddi cyn hir!

Bronwen Lewis

Aml offerynwraig ac yn benigamp ar Tik-Tok, mae Bronwen Lewis yn perfformio repertoire amrywiol o emynau Cymreig traddodiadol yr holl ffordd drwyddo i Ed Sheeran.

Mae gan y gantores gyfansoddwr arddull gynnes hyfryd sydd yn perthyn rhwng canu gwlad, pop, caneuon gwerin a’r blues.

Mae Bronwen yn falch o’i dwyieithrwydd a chafodd clod rhyngwladol yn ystod ei hamser ar The Voice y BBC ac effeithiodd yn emosiynol ar Tom Jones. Roedd Bronwen hefyd yn serennu yn ac yn canu’r arwyddgan ‘Bread and Roses’ yn y ffilm ‘Pride’ a enillodd Wobr BAFTA.

Yn 2021 cafodd ei gwahodd ar Breakfast Show Radio 1, perfformiodd yn rheolaidd ar Radio Wales a chanodd yr anthem genedlaethol ar BBC 1 cyn gêm bêl droed Cymru yn y gystadleaeth Ewropeaidd yn erbyn Denmarc.

Mae ei halbwm newydd newydd ei ryddhau ac mae ar hyn o bryd ar daith lle mae’r holl docynnau wedi’u gwerthu.