Ymunwch â ni am noson fendigedig o adloniant yng nghwmni Mal Pope yn Maggie’s Gorllewin Llundain, adeilad sydd wedi’i ddylunio gan bensaer, a mwynhau bwyd gwych a greuwyd gan y Pen Cogydd yn y River Café, Sian Wyn Owen.
Gwrandewch ar Mal yn canu ac yn ein diddanu ac wrth iddo siarad am ei gefnogaeth i Maggie’s ac am ei yrfa. Cewch glywed hefyd gan siaradwyr o fri, y Fonesig Laura Lee, Prif Weithredwr elusen ganser genedlaethol Maggie’s, ar sut maen nhw’n dod â chefnogaeth ganser arbenigol i Gymru, ac â’r cyn newyddiadurwr a darlledwr, Geraint Talfan Davies OBE.
Anfonwch e-bost i Maggie’s er mwyn neilltuo’ch lle – rachael.davies@maggies.org neu gliciwch ar y ddolen uchod.