Ymunwch ag arbenigwyr diwydiant ar gyfer trafodaeth fewnweledol ar rôl Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn neinameg gwaith, rheoli risg, a strategaethau addasu dynol.
Darganfyddwch rôl allweddol AI wrth adsiapio deinameg gwaith a rheoli risgiau yn y gweithle.
Bydd y digwyddiad hwn a noddir gan FTI Consulting fel rhan o Wythnos Cymru Llundain, yn ymchwilio i agweddau amrywiol o integreiddiad AI: o seiberddiogelwch a rheoli argyfwng i gydymffurfiaeth GDPR, yswiriant, a rhwydweithiau ynni.
Ymgysylltwch ag areithwyr o fri, gan gynnwys Kate Brader, Uwch –Gyfarwyddwr Rheoli yn y tîm argyfwng yn FTI Consulting, Charlie Palmer, Pennaeth Byd-eang Telecom, Media & Technology yn FTI Consulting, a’r Athro Pete Burnap o Brifysgol Caerdydd, Cyfarwyddwr Canolfan Caerdydd ar gyfer Ymchwil Seiberddiogelwch.
Enillwch mewnweliadau i wthio AI ar gyfer canlyniadau cadarnhaol tra’n archwilio strategaethau ar gyfer addasu dynol mewn tirlun gwaith sydd yn datblygu.