Ymunwch gyda Mauve Group a’n perfformwyr gwadd arbennig - y ferch gyntaf o Gymru i ddringo i gopa Everest, sef yr anturiaethwraig Tori James, y delynores o fri Mared Emyr a chantores ‘Welsh in the West End’ - Mared Williams - am noson o fwyd a diod Cymreig, areithiau ysbrydoledig , cerddoriaeth a rhwydweithio wrth i ni ddathlu cyfleoedd Cymreig ar lwyfan byd-eang.
Gwydnwch, penderfyniad a dycnwch: pob nodwedd sy'n werthfawr mewn busnes, chwaraeon eithafol a cherddoriaeth wrth berfformio ar y lefel uchaf. Gall busnesau Cymreig ennill ar gyfleoedd heb eu hail pan fyddant yn ymgymeryd âr sgiliau hyn – yn enwedig wrth geisio dod â’u cynnyrch a’u gwasanaethau i farchnad newydd.
Yn cael ei gynnal mewn capel o’r 13eg ganrif yng nghanol dinas Llundain, bydd y mynychwyr yn dysgu sut i oresgyn ffiniau twf personol a phroffesiynol, cwrdd â chysylltiadau newydd a dathlu busnes a diwylliant Cymreig.
Bydd y digwyddiad hefyd yn gweld lansiad Mauve Cymru Ltd, cwmni newydd i gefnogi busnesau i ehangu yn fyd-eang sy'n ymroddedig i ddod â chyfleoedd i Gymru gartref a thramor.
Rydym bron â dod i ben gyda'r holl drefniadau ar gyfer y noson, felly fe fydd mwy o newyddion i’w rannu yn fuan, ond mae tocynnau yn brin, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu eich lle heddiw trwy glicio ar y ddolen uchod.