Rydym yn dathlu Blwyddyn y Môr yma yng Nghymru eleni, ac i ddathlu, rydym yn cynnig pecyn gwobr VIP, gwerth dros £1,000, i wylio Ras Cefnfor Volvo yng Nghaerdydd.

Rydym yn dathlu arfordir hyfryd Cymru ac yn gwahodd ymwelwyr i gael profiadau epig newydd ar hyd ein glannau. Dyma eich blwyddyn i roi cynnig ar weithgarwch arfordirol newydd - fel hwylio, ceufadu, padlfyrddio neu arforgampau neu ddilyn yr afonydd at eu tarddiad a chrwydro glannau ein llynnoedd a'n cronfeydd dŵr.

Wedi eu disgrifio fel yr antur eithaf ar y môr ac yn brawf gwirioneddol o allu dynol, mae Ras Cefnfor Volvo yn her forol fyd-eang na welwyd mo'i thebyg o'r blaen. Daw i Brydain am y tro cyntaf mewn dros ddegawd pan fydd yn aros ym mhrifddinas Cymru yn ystod yr haf o'r 27ain Mai i'r 10fed Mehefin.

Ar gyfer y Ras, bydd Bae Caerdydd yn cynnal gŵyl gyffrous yn rhad ac am ddim, gydag amrywiol ffyrdd o ddiddanu'r cyhoedd, atyniadau â themâu, rasio ger y glannau, a stondinau bwyd a diod ger y dŵr. Gyda diwylliant unigryw, croeso cynnes Cymreig a'r bwyd a'r diod gorau, mae Cymru yn cynnig rhai o brofiadau mwyaf cyffrous y DU ar gyfer 2018. Cofiwch gystadlu yn y gystadleuaeth er mwyn ennill y wobr wych hon.

Beth sydd wedi'i chynnwys yn y wobr wych hon?

- Gwyliau dwy noson, gyda brecwast, i ddau o bobl yn The Exchange Hotel ar Fehefin 8 a 9

- Croeso VIP, gan gynnwys bwyd a diod, ym Mhentref y Ras i ddau o bobl ar Fehefin 9

- Taith o amgylch Pentref y Ras a thaith cwch (os fydd y tywydd yn caniatáu hynny) ym Mae Caerdydd ar Mehefin 9

Cyfle i ennill drwy lenwi'r ffurflen isod. Telerau ac Amodau y gystadleuaeth.

http://croeso.cymru/mor/ys18?utm_source=wales-week-london&utm_medium=social&utm_campaign=yscy18