Mae Wythnos Cymru Llundain, y rhaglen flynyddol fwyaf o ddigwyddiadau yn hybu a dathlu Cymru, yn cychwyn y penwythnos hon, gyda chynifer â 90 o weithgareddau gwahanol yn digwydd yn Llundain tan 9 Mawrth.
Yn cael ei gynnal oddeutu pythefnos dros gyfnod Dydd Gŵyl Dewi bob blwyddyn, 2022 yw’r chweched rhaglen flynyddol ddilynol, ac mae’n cynnwys digwyddiadau sydd yn cwmpasu busnes, mentrau cymdeithasol, gwyddorau bywyd a thechnoleg, pensaernïaeth, celf, cerddoriaeth, ffilm, cysylltiadau llywodraeth a rhyngwladol, chwaraeon, bwyd a diod, cyfweliadau â phobl enwog, adloniant a llawer mwy.
Mae Wythnos Cymru Llundain 2022 yn adeiladu ar lwyddiannau’r bum mlynedd ddiwethaf, lle cyfranodd liawst o enwogion, busnesau, chwaraeon, sefydliadau bwyd a celf Cymreig at arddangos Cymru i gynulleidfa gynulliadol o, yn 2020 ei hunan (y flwyddyn olaf pan oedd gweithgareddau wyneb i wyneb), oddeutu 14,000, yn cwmpasu 135 o ddigwyddiadau a mwy na 60 o leoliadau gwahanol ar draws Llundain.
Yn dilyn rhaglen a oedd yn bennaf ar-lein yn 2021 oherwydd covid, mae digwyddiadau Wythnos Cymru Llundain eleni yn cael eu cynnal eto wyneb i wyneb.
Mae’r Cydsefydlwr a Chadeirydd y fenter, Dan Langford, yn falch bod y rhaglen unwaith eto yn ôl ar ei gwedd gwreiddol o gael presenoldeb ffisegol ar draws y ddinas; meddai, “Roeddem yn falch yn ystod y cyfyngiadau clo’r llynedd, bod ein partneriaid a’n trefnwyr digwyddiadau yn dal yn benderfynol i redeg digwyddiadau a chadw momentwm Wythnos Cymru, er ar-lein yn unig, i fynd; mae eu brwdfrydedd ar gyfer parhau i fod yn rhan o Wythnos Cymru a’u cyfranogiad parhaus yn dra syfrdanol, ac yn hanfodol i lwyddiant parhaol y fenter wrth arddangos rhagoriaethau Cymru.
“Roedd gennym oddeutu 70 o ddigwyddiadau bryd hynny, ac eleni mae’r rhaglen wedi cynyddu eto i oddeutu 90 o ddigwyddiadau, sydd yn newyddion gwych; gyda’n gilydd byddwn yn ôl yn gwneud rhywfaint o fwrlwm ar draws un o ddinasoedd blaengar y byd.”
Yn ogystal â gweithio ar y cyd gyda llawer o fusnesau, y celfyddydau a sefydliadau chwaraeon, y rhaglen fwyaf o’i bath o ddigwyddiadau dathlu a hybu ar gyfer Cymru bob blwyddyn, mae hefyd yn gweithio’n glos gyda’r grwpiau Cymry ar wasgar yn Llundain a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn bennaf trwy Swyddfa’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, a Llywodraeth Cymru.
Meddai Langford hefyd, “Mae Wythnos Cymru’n ymwneud yn fwyaf â phartneriaethau; byddwn yn denu a chyduno ewyllys da, dychymyg ac egni cynifer o bobl a sefydliadau gwych o dan un faner Wythnos Cymru, yr ydym drwyddi yn eu hybu, eu brandiau, ei gweithgareddau a chyda’n gilydd yn cynhyrchu bwrlwm Cymreig.
“Mae hyn yn gyrru ein pwrpas o ddathlu dydd ein nawddsant, gan ddathlu diwylliant a threftadaeth Gymreig, a hybu Cymru fodern i weddill y byd.”
Yn ystod hynt y blynyddoedd diwethaf, mae eu menter Wythnos Cymru Fyd-eang wedi datblygu i leoliadau eraill ledled y byd; gan redeg rhaglenni wythnos Cymru ar yr un pryd, mewn llefydd fel Efrog Newydd, Hwngari, Berkshire, Paris, Kansas, Melbourne, Osaka, New England, Tokyo, Dulyn, British Columbia, Newcastle, Pittsburgh; ac am y tro cyntaf eleni, bydd rhaglen ar-lein newydd ar gyfer Wythnos Cymru Iran.
Meddai Langford, “Mae gennym nifer cynyddol o bobl ledled y byd gyda diddordeb ganddyn nhw i ymuno â ni i redeg rhaglen Wythnos Cymru ble bynnag y bont – fel gyda’r bobl syfrdanol sydd eisoes yn rhedeg ein rhaglenni Wythnos Cymru’n rhyngwladol, rydym yn dibynnu ar eu hegni, amser a brwdfrydedd, y maen nhw’n ei wirfoddoli bob blwyddyn. Mor wylaidd i’w denu pobl dda o’r fath i fod yn rhan o’r fenter – ac wrth wneud hynny maen nhw’n lysgenhadon bendigedig dros Gymru ledled y byd.
“Ein bwriad hefyd oedd rhedeg Wythnosau Cymru yn Geneva, De Affrica, Birmingham a mewn lleoliadau eraill eleni ond, yn bennaf oherwydd amgylchiadau’n gysylltiedig â covid, ni lwyddom ei wireddu. Fodd bynnag byddan nhw gyda ni ar gyfer 2023, ynghyd â llefydd eraill lle rydym mewn trafodaethau gyda nhw, gan gynnwys Malta, yr Eidal, Los Angeles, Hong Kong, Singapore, Swydd Efrog, Patagonia, Norwy, Texas, Glasgow ymysg eraill.
“Yn wir rydym ar hyn o bryd mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig am dyfu’r fenter Wythnos Cymru Fyd-eang dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, rhywbeth yr ydym yn gyffrous iawn amdano.
“Gyda’n gilydd ein nod yw dangos Cymru ar ei gorau i’r byd, a chynyddu’r bwrlwm yr un pryd.”
Cynhaliwyd Wythnos Cymru Llundain gyntaf yn 2017, ac fe’i sefydlwyd gan yr ymgynghorydd marchnata a chyfathrebu, Dan Langford, a Mike Jordan, Rheolwr Gyfarwyddwr yr asiantaeth brandio blaenllaw, Bluegg.
Meddai Mike Jordan, “Rydym yn falch eleni, i ddiolch unwaith eto i’r noddwyr hynny sydd yn parhau i’n cefnogi, ac hefyd i groesawu noddwyr newydd megis Call of the Wild, Invest Cardiff, Cardiff Parkway Developments, Wolfberry Cyber Security a British Business Bank.
“Ac mae’n wych bod Canolfan Cancr Felindre yn parhau fel ein helusen swyddogol; yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae Wythnos Cymru wedi helpu codi oddeutu £100,000 dros Felindre, a bu eu cyfranogiad i’r rhaglenni digwyddiadau yn wych.”
Partneriaid sefydlol Wythnos Cymru Llundain yw Acorn Recruitment, Bluegg, Llywodraeth y DU, a Llywodraeth Cymru; mae partneriaid eraill yn cynnwys Burns Pet Nutrition, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Menzies, Furrer+Frey, Golley Slater, GWR, Hugh James, Hybu Cig Cymru / Meat Promotion Wales, PwC, First of March, The Skills Centre, Penderyn a Chymdeithas Chwaraeon Cymru.