Wel dyna ni – Wythnos Cymru Llundain ac Wythnos Cymru Fyd-eang drosodd am flwyddyn arall!
Gyda’n partneriaid, cefnogwyr a chynhalwyr digwyddiad rhyfeddol, rydym bellach wedi cynnal Wythnos Cymru am bum mlynedd yn ddilynol – bob blwyddyn, hi yw’r rhaglen digwyddiadau sengl, fwyaf yn hybu Cymru, yn Llundain a ledled y byd fel ei gilydd.
Dros y pythefnos yn amgylchynu Dydd Gŵyl Dewi eleni, cynhaliodd Wythnos Cymru Llundain oddeutu 70 o weithgareddau a digwyddiadau gwahanol yn cynnwys bwyd a diod Gymreig, chwaraeon, arddangosfeydd celf, cyngherddau a pherfformiadau cerddorol, trafodaethau gwleidyddol ac economaidd, comedi, dylunio, cwisiau, arddangosfeydd coginio ac arlunio, hyrwyddiadau busnes a chyngor proffesiynol, sinema, ffilm, y cyfryngau, technoleg ariannol, seibir a mwy - unwaith eto bu’n rhaglen amrywiol, lawn a bendigedig.
Eleni cafodd y rhaglen ei chyflenwi’n gyfan ar-lein wrth gwrs – tystiolaeth ryfeddol i egni, dychymyg ac ymrwymiad cryn nifer o bobl a sefydliadau a gyflenwodd pob gweithgarwch ac a gyfranogodd i gyflwyno Wythnos Cymru am y bumed flwyddyn yn olynol.
(Ac am unwaith ac am byth eleni, rydym wedi ychwanegu un digwyddiad yn fwy - digwyddiad Cymdeithas Chwaraeon Cymru arbennig, yn digwydd ar 19 Mawrth i apelio i bobl Gymreig ledled y byd a fyddai’n hoffi cyfle i gynnig eu harbenigedd i helpu chwaraeon Cymru - manylion fan’ma https://walesweek.london/whats... )
Ac o gwmpas y byd, er yr heriau amlwg a wynebodd pawb, roedd yn dal yn bosib i gynnal digwyddiadau Wythnos Cymru yn New England, Pittsburgh, Efrog Newydd a Kansas yn yr Unol Daleithiau, ac ym Melbourne, Paris, Beijing, Berkshire, Osaka a Hwngari – yn ogystal â Phythefnos Bwyd Wythnos Cymru dynodedig, lle bu amryw o ddigwyddiadau blasu bwyd ac arddangosfeydd gan nifer o gynhyrchwyr bwyd a diod Gymreig a phen-cogyddion.
At ei gilydd, cyflenwodd Wythnos Cymru Llundain ac Wythnos Cymru Fyd-eang oddeutu 130 o weithgareddau a digwyddiadau gwahanol i gynulleidfaoedd yng Nghymru, ledled y DU a’r byd yn ystod un pythefnos.
Wrth ei hunan, mae Wythnos Cymru bellach wedi cyflenwi cyfanswm o 449 o ddigwyddiadau dros y pum mlynedd ddiwethaf – ac eisoes ar gyfer 2022, mae sefydliadau wedi cysylltu â ni ar gyfer digwyddiadau newydd y gwanwyn flwyddyn nesaf, a gan noddwyr newydd – felly mae’r momentwm yn parhau i adeiladu, ac mae gwaith ar y rhaglen flynyddol fwyaf o ddigwyddiadau yn hybu Cymru eisoes wedi dechrau ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Ac edrychwn ymlaen at adeiladu rhaglen Wythnos Cymru Fyd-eang yn bellach drwy ail-weithredu’n partneriaethau mewn lleoedd fel Tokyo, Dulyn, New Mexico, Bangkok, Toronto, Ohio, British Columbia, Hong Kong, Dubai, Vancouver, Newcastle, ac mewn cyrchfannau megis Glasgow, Birmingham, Oslo, Patagonia, Ottawa, Y Swistir a mannau eraill.
Mewn gair, canlyniad penderfyniad, ewyllys da ac egni cynifer o bobl a sefydliadau bendigedig yw Wythnos Cymru Llundain a’r rhaglenni Wythnos Cymru a gynhelir ledled y byd – mae’n amhosib cyfleu’n gwerthfawrogiad yn ddigonol – ac edrychwn ymlaen at y flwyddyn nesaf, wrth i Wythnos Cymru ddychwelyd gyda digwyddiadau wyneb-i-wyneb unwaith eto, yn ogystal â manteisio ar y cyfleoedd digidol newydd i ddod â rhaglen hybrid o weithgareddau a digwyddiadau yn dathlu’n diwylliant a threftadaeth, gan goffáu diwrnod ein nawddsant a hybu Cymru fodern i weddill y byd.
Diolch yn fawr.