Mae Wythnos Cymru Llundain, rhaglen flynyddol o ddigwyddiadau sydd yn dathlu a hybu popeth o Gymru, yn gwthio’r cwch i’r dŵr heddiw, ddydd Sadwrn 20 Chwefror, gyda rhai 60 o weithgareddau a digwyddiadau yn digwydd ar-lein o 20 Chwefror – 7 Mawrth.

Yn cael ei chynnal bob blwyddyn dros gyfnod Dydd Gŵyl Dewi, 2021 yw’r pumed raglen flynyddol ddilynol, ac mae’n cynnwys digwyddiadau yn cwmpasu busnes a thechnoleg, y celfyddydau, cerddoriaeth a chyngherddau, ffilm a’r cyfryngau, gwleidyddiaeth, chwaraeon, dylunio, bwyd a diod, cwisiau, adloniant a mwy.

Mae rhaglen Wythnos Cymru Llundain 2021 yn adeiladu ar lwyddiant y blynyddoedd diweddar, lle gwnaeth lliaws o sêr Cymru, busnesau, chwaraeon, sefydliadau bwyd a chelf gyfrannu i arddangos Cymru i gynulleidfa gyfunol y llynedd yn unig, o bron 14,000, gan gynnwys 135 o ddigwyddiadau gwahanol a mwy na 60 o fannau cyfarfod ledled Llundain.

Eleni bydd pob digwyddiad Wythnos Cymru yn digwydd ar-lein wrth gwrs, sydd, fel yr eglurodd cyd-sefydlwr a chadeirydd menter Wythnos Cymru, Dan Langford, wedi gostwng nifer y digwyddiadau, ond nid yr amrywiaeth, yr ansawdd na’r cyfleoedd.

“Rhaid cyfaddef, dim ond ychydig o fisoedd yn ôl oedd hi pan ddechreuom dybio p’un ai a fyddai Wythnos Cymru yn gallu cael ei rhedeg ai pheidio eleni - roedd yr amgylchiadau ynghylch delio â’r pandemig a’r effaith ganlyniadol i drefnwyr ein digwyddiad, cynhalwyr a phartneriaid o bryder mawr i ni. Ond ar ôl y digwyddiad lansio a ddarlledwyd yn fyw o stiwdios Orchard Media yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr y llynedd, ac o sgwrsio â nifer o’n partneriaid cawsom ein calonogi’n gyflym y bod cefnogaeth ryfeddol o hyd ar gyfer Wythnos Cymru a chydewyllys i gadw momentwm y pedair blynedd ddiwethaf ar droed.

“Ac felly dyma ni; yn gweithio eto gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a’r gefnogaeth ryfeddol a gawn gan bob un o’n partneriaid, noddwyr a threfnwyr digwyddiad, bydd oddeutu 60 o ddigwyddiadau’n digwydd, gan goffáu dydd ein nawddsant, dathlu’n diwylliant a hybu Cymru fodern i weddill y byd.”

Mae S4C, Wisgi Cymreig Penderyn, Fintech Wales, Hybu Cig Cymru, Wales HR Network, Elusen Aloud, GlobalWelsh, Women in PR Cymru, Cymru yn Llundain, Call of the Wild, Darogan, New Directions Group, The Goodwash Company, Opera Cenedlaethol Cymru, Gorwelion BBC Cymru, PwC, Bwyd a Diod Cymru, Welsh Art Week, London Welsh Centre, Canolfan Canser Felindre, Llywodraeth Cymru, yr IoD, CBI a Siambrau Masnach Prydain, a llawer eraill eisoes wedi cyhoeddi eu bod yn cyfrannu yn rhaglen 2021

Aeth Dan Langford ymlaen, “Drwy fynd yn ddigidol, gallwn hefyd anelu i ddenu cynulleidfaoedd ehangach i bob un o’r gweithgareddau a digwyddiadau, ac rydym yn ymdrechu’n galed i hybu popeth sydd yn digwydd i gynulleidfaoedd rhyngwladol drwy ein rhaglen Wythnos Cymru Fyd-eang a’r sianeli cyfathrebu priodol.

“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf bu nifer o Wythnosau Cymru yn digwydd ar yr un pryd mewn lleoliadau eraill o gwmpas y byd, gan gynnwys yn Efrog Newydd, Pittsburgh, Paris, Berkshire, Newcastle, New England, Essex, Melbourne, Dulyn, Kansas, British Columbia, Tokyo a mannau eraill, ac er ei fod yn anodd am resymau amlwg i nifer o’n cynhalwyr tramor i redeg Wythnos Cymru eleni, rydym o hyd wedi denu diddordeb gan leoliadau newydd megis Osaka a Hwngari.

“Y weledigaeth yw adeiladu ar hyn ac yn y pen draw bod â llawer mwy o Wythnosau Cymru i gyd yn creu sŵn mawr dros Gymru tua chyfnod Dydd Gŵyl Dewi bob blwyddyn ar draws y byd. Clod mawr i’r unigolion anhygoel sydd yn cydweithio gyda ni wrth gyflenwi’r digwyddiadau rhyngwladol hyn bob blwyddyn – gwnânt hynny yn eu hamser ei hunain, oherwydd eu cariad dros Gymru ac am eu dymuniad i gefnogi hybu a chodi proffil Cymru ble bynnag bo eu canolfannau ledled y byd.

“Gyda’n gilydd cymerwn y gorau o Gymru i’r byd, a gwneud y sŵn mwyaf anhygoel wrth i ni wneud hynny.”

Cafodd Wythnos Cymru Llundain ei chynnal gyntaf yn 2017, ac fe’i sefydlwyd gan yr ymgynghorydd marchnata a chyfathrebu, Dan Langford, a Mike Jordan, perchennog a Chyfarwyddwr yr asiantaeth brandio blaenllaw, Bluegg.

Meddai’r cyd-sefydlydd Mike Jordan, “Rydym wrth ein bodd eleni, nad ydym yn unig yn diolch i’r noddwyr hynny sydd yn parhau i’n cefnogi unwaith eto hyd yn oed trwy’r cyfnod heriol hwn, ond ein bod hefyd yn croesawu noddwyr newydd megis Menzies, Orchard, First of March a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.

“Ac mae’n wych bod Canolfan Canser Felindre yn parhau i fod ein helusen swyddogol; dros y ddwy flynedd ddiwethaf helpodd Wythnos Cymru godi oddeutu £100,000 i Felindre ac mae eu cyfranogiad wrth helpu cyflenwi nifer o ddigwyddiadau aruthrol gwirioneddol wedi bod yn fendigedig.

“O’r rheiny sydd yn datblygu a threfnu’r gweithgareddau a digwyddiadau niferus, i’r rheiny sydd yn mynychu’r digwyddiadau hyn ac yn ymgysylltu trwy’r cyfryngau cymdeithasol, ac i’n partneriaid a noddwyr niferus, gan gynnwys y ddwy lywodraeth yn gweithio’n glos ar y cyd, a’r nifer mawr o’r Cymry ar wasgar o gwmpas y byd, mae Wythnos Cymru Llundain a’r nifer cynyddol o fentrau Wythnos Cymru fyd-eang yn benllanw eu holl egni positif, dychymyg ac ewyllys dda aruthrol.”

Partneriaid sefydlu Wythnos Cymru yn Llundain yw Acorn Recruitment, Bluegg, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru; partneriaid eraill yn cynnwys CPMS, Burns Pet Nutrition, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Circle IT, Cooke & Arkwright, Menzies, Furrer+Frey, Golley Slater, GWR, Hugh James, Hybu Cig Cymru / Meat Promotion Wales, PwC, The Skills Centre, S4C, Penderyn a Chymdeithas Chwaraeon Cymru .

Ceir y rhaglen digwyddiadau yn Wythnos Cymru Llundain.

Newyddion