Llawer o ddiolch i’r rheiny ohonoch a ymunoch â ni ar gyfer lansio Wythnos Cymru Llundain ’21 a gynhaliwyd ar-lein yn ôl yn nyddiau cynnar Rhagfyr (gwyliwch ef fan’ma), cawsom bron i 250 o bobl yn gwylio’r darllediad - rhyfeddol – a diolch i chi am gymryd yr amser i fod yn rhan ohono.
Rhaid cyfaddef, yn yr ychydig wythnosau’n dilyn y lansiad daethom yn gynyddol ofidus am geisio cyflawni Wythnos Cymru Llundain ar gyfer eleni (digalondid y cyfyngiadau symud yn gafael yn ein hymennydd!), ond diolch byth, yn dilyn sgyrsiau gyda rhai ohonoch (rydych yn gwybod pwy ydych chi - yn wirioneddol ddiolchgar i chi!) sylweddolom yn gyflym iawn bod, yn bendant, chwaeth yn parhau i redeg y rhaglen yn 2021, er bod rhaid derbyn y byddai’n wahanol iawn i’r blynyddoedd blaenorol, gyda’r holl weithgareddau / digwyddiadau yn digwydd ar-lein wrth gwrs, ac yn golygu ar gyfer rhai digwyddiadau / trefnwyr, na fyddai’n bosib iddyn nhw gyfranogi eleni.
Felly, mae amserlen y digwyddiad yn debygol o fod yn llai nag yn 2020 (pan fu mwy na 135 o weithgareddau a digwyddiadau!) ond fel pob tro, rydym yn parhau’n benderfynol i wneud gymaint o gynnwrf â phosib dros eich gweithgareddau / digwyddiadau, dros Ddydd Gŵyl Dewi a dros Gymru(!).
Cawsom gymaint o sgyrsiau calonogol gyda rhai ohonoch dros y tair wythnos ddiwethaf, ac rydym wrth ein bodd gyda natur y digwyddiadau a fydd yn digwydd - ar-lein - o 20 Chwefror i 7 Mawrth - felly diolch yn fawr yn wir am eich ymdrechion a’r cyfranogiad a wnewch i gadw Wythnos Cymru Llundain yn fyw ar gyfer y gwanwyn heriol hwn - rydym yn gwerthfawrogi’ch cefnogaeth ac yn llawn cyffro'r un pryd.
Rydym yn hwyrach nag yn arferol ar gyfer trefnu pethau eleni (ymddiheuriadau mawr!!) ond cyn gynted y bydd manylion gennym o’r gweithgareddau a’r digwyddiadau sydd ar ddod, yna fe lan lwythwn ni nhw ar ein gwefan, a byddwn yn eu hyrwyddo drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a chronfa data yn ddi-oed.
Rhywbeth (da) i’w nodi - er na fydd gan y digwyddiadau ar-lein yr un deinamig ‘wyneb-i-wyneb’ fel sydd gan ddigwyddiadau ffisegol, gan ei fod ar-lein bydd trefnwyr a chroesawyr digwyddiadau yn gallu rhedeg a chyflenwi’u digwyddiadau Wythnos Cymru Llundain heb orfod bod yn Llundain wrth gwrs - a thrwy ein gwefan Wythnos Cymru Fyd-eang (yn lansio yn yr ychydig ddiwrnodau nesaf) a sianeli cyfathrebu a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â’r rheiny ar gyfer Wythnos Cymru Llundain, gallwn hybu’r digwyddiadau hynny i gynulleidfa fyd-eang am y tro cyntaf yn ogystal - felly gobeithio mwy o gyfle i’n digwyddiadau gyrraedd mwy o gynulleidfaoedd!
Diolch eto am eich cefnogaeth barhaus – edrychwn ymlaen at eich gweld (yn rhithiol) dros yr wythnosau i ddod - diolch yn fawr, Dan a Mike.