LANSIAD BYD EANG I WYTHNOS CYMRU YN LLUNDAIN

Mae Wythnos Cymru yn Llundain 2019 yn ymddangos i fod y mwyaf hyd yn hyn gyda mwy na 80 o ddigwyddiadau yn digwydd ar draws brif ddinas y DU i hybu Cymru a dathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Dyma’r drydedd sioe arddangos yn Llundain yn hybu diwylliant, busnes, chwaraeon, twristiaeth, bwyd a diod Gymreig, ac mae’n argoeli y bydd yn gwneud mwy o sŵn nag erioed.

Mewn derbyniad yn Gwydyr House yn Whitehall ddydd Llun 3 Rhagfyr, cyhoeddodd y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru raglen llawn o ddigwyddiadau yn digwydd ar draws Llundain oddeutu cyfnod Dydd Gŵyl Dewi; o 23 Chwefror i 9 Mawrth 2019.

Bydd ffigyrau Cymreig blaenllaw sy’n cymryd rhan yn rhaglen Wythnos Cymru 2019 yn cynnwys blaenaelod y Manic Street Preachers, James Dean Bradfield, y digrifwr Rhod Gilbert, Rheolwr tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru a chyn cawr Manchester United, Ryan Giggs, a chyn capten rygbi Cymru a’r Llewod, Sam Warburton. Bydd hefyd berfformiadau gan Opera Cenedlaethol Cymru, Only Boys Aloud a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn ogystal ag artistiaid a gydnabyddir yn rhyngwladol.

Bydd cynrychiolwyr o Gydffederasiwn Diwylliant Prydain (CBI), Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB), Siambrau Masnach Prydain (BCC) a Sefydliad Cyfarwyddwyr (IoD) yn cymryd rhan mewn trafodaeth arddull ‘Question Time’; tra bydd busnesau byd eang PwC ac UBS, a sefydliadau eraill megis BBC Cymru, S4C, BAFTA Cymru, Clwb Rygbi Cymry Llundain, a Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU hefyd yn cynnal ystod eang o ddigwyddiadau.

Mae mannau cyfarfod yn cynnwys sefydliadau tirnod yn Llundain megis 10 Downing Street, Palas Westminster, y Guildhall, y Royal Academy of Dramatic Art (RADA), Coleg Brenhinol y Celfyddydau, Canolfan Cymry Llundain a Borough Market.

Yn y lansiad yn Swyddfa Cymru, gyda ffigurau blaenllaw'r holl sectorau busnes Cymreig, y cyfryngau, llywodraeth a’r celfyddydau yn bresennol, meddai’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, Alun Cairns, “Fel dathliad o ddiwylliant a diwydiant Cymreig, mae Wythnos Cymru yn Llundain yn darparu’r cyfle perffaith i hybu Cymru ar ei gorau i gynulleidfa ryngwladol; ac rwy wrth fy modd bod Llywodraeth y DU, fel un o’r partneriaid sefydlu yn rhoi ei chefnogaeth lawn i Wythnos Cymru yn Llundain 2019.

“Gyda rai digwyddiadau ffantastig ar y gorwel ac ystod o sefydliadau aruthrol yn rhan ohoni, unwaith eto, bydd yn lwyddiant mawr.”

Meddai Ken Skates AC, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Economi a Thrafnidiaeth, hefyd yn bartner sefydlu Wythnos Cymru yn Llundain, “Mae ein gwlad yn wlad nwyfus gyda chymaint i’w gynnig - yn hanesyddol, yn ddiwylliedig ac wrth gwrs trwy ein hystod amrywiol o fusnesau.

“Hyrwyddiad cydlynol yw Wythnos Cymru yn Llundain o’r amryfal bethau y gallwn fod yn falch iawn ohonynt, ac mae’r digwyddiad yn arddangos cyfres o weithgareddau sydd yn dathlu a hybu cymunedau Cymreig sydd eisoes yn bodoli yn Llundain, gan ddarparu cyfle cyffrous i godi’n proffil a chreu cyffro go iawn.”

Cafodd Wythnos Cymru yn Llundain ei sefydlu, yn eu ‘hamser hamdden’ gan bobl busnes Cymreig, Dan Langford, Cyfarwyddwr Marchnata Grŵp yng nghwmni recriwtio arbenigol blaenllaw Acorn, a Mike Jordan, perchennog a Chyfarwyddwr asiantaeth frandio blaenllaw Bluegg.

Yn ystod y lansiad, cafodd sefydlwyr Wythnos Cymru eu cymeradwyo hefyd am gyhoeddi’u datblygiad diweddaraf, Wythnos Cymru Byd Eang.

Cafodd y pecyn Wythnos Cymru Byd Eang, yn cynnwys celfwaith ar gyfer logos, brandio a syniadau ar gyfer digwyddiadau a chynllunio, ei anfon i gymunedau Cymreig ledled y byd i’w cefnogi wrth iddynt greu eu Hwythnos Cymru eu hunain ble bynnag yn y byd, efallai, y maent.

Cyn belled, maent wedi cael ymatebion ynglŷn â rhedeg eu Hwythnos Cymru eu hunain gan grwpiau Cymreig yn Efrog Newydd, Washington, New England, New Mexico a Los Angeles yn yr UD, a chan gymdeithasau Cymreig yn Ottawa, Paris, ac yn agosach i gartref yn Newcastle, Woking a’r Chilterns.

Meddai Cadeirydd Wythnos Cymru, Dan Langford, “Rydym wedi cysylltu â mwy na 120 o gymdeithasau Cymreig ledled y byd ac mae’r adborth a gawsom mewn dim ond ychydig ddyddiau wedi bod yn drawiadol.

“Ar y cyd â Chymdeithas Gymreig Paris roeddem eisoes wedi dechrau cynllunio’r Wythnos Cymru à Paris gychwynnol ar gyfer mis Mawrth nesaf, ac ers i ni anfon ein pecyn Wythnos Cymru Byd Eang o gwmpas y byd, gofynnwyd i ni ddatblygu brand ar gyfer Wythnosau Cymru mewn nifer o ddinasoedd a rhanbarthau ledled yr UD, yng Nghanada a lleoedd eraill yn y DU.

“I fod yn onest, bu’n ychydig o fisoedd dwys iawn – er ymgysylltu â’n partneriaid sydd eisoes yn bodoli, rydym hefyd wedi croesawu nifer o noddwyr newydd ffantastig ar gyfer Wythnos Cymru yn Llundain 2019. Ac mae’r rhaglen ei hun wedi datblygu’n wych, gyda rai perfformiadau, pobl a sefydliadau ardderchog i gyd yn cyfrannu at gynnig y gorau oll o Gymru i Lundain, ac yn y ffyrdd mwyaf cyffrous ac amrywiol a phosib.

“Dull ar y cyd yw Wythnos Cymru – ymdrechion ar y cyd y ddwy lywodraeth yw, ynghyd â noddwyr rhyfeddol, ac ystod enfawr o unigolion a sefydliadau rhagweithiol i gyd yn gweithio gyda’i gilydd i hybu Cymru fodern yn Llundain ac i weddill y byd.”

Dewisodd Wythnos Cymru yn Llundain Velindre fel ei elusen ddynodedig ar gyfer 2019 a 2020, gyda nifer o ddigwyddiadau codi arian wedi’u cynnal i gefnogi gwaith Canolfan Cancr Velindre yng Nghaerdydd. Yn ogystal â chinio gyda Sam Warburton, mae gweithgareddau Velindre hefyd yn cynnwys digwyddiad arddull Question of Sport yn cael ei gynnal yng Nghlwb Rygbi Cymry Llundain, gyda thimau Cymru a Lloegr o dan gapteniaeth y prop rhyngwladol Adam Jones i Gymru a Joe Marler i Loegr.

Partneriaid sefydlu Wythnos Cymru yn Llundain yw Acorn Recruitment, Bluegg, Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru; a phartneriaid eraill yn cynnwys noddwyr sydd eisoes yn bodoli, Burns Pet Nutrition, Circle IT, Cooke & Arkwright, Furrer+Frey, GE Aviation, Golley Slater, GWR, Hugh James, Penderyn Welsh Whisky, PwC, Resource Ltd a Chymdeithas Chwaraeon Cymru. Mae noddwyr newydd yn cynnwys Prifddinas Ranbarth Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Christ College Brecon, KeolisAmey, Principality Building Society, a Tom Simmons Restaurant.

Ceir y rhaglen digwyddiadau a manylion ar sut i ymwneud â nhw yn www.walesweek.london.

DIWEDD.