• Dyddiad
    4th Mawrth 2020 at 09:00yb
  • Man cyfarfod
    The Royal Pharmaceutical Society, 66-68 East Smithfield, London E1W 1AW
  • Gwesteiwr
    Inspire Me
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Digwyddiad unigryw, i arweinyddion busnes sydd wedi’u hysbrydoli i fod yn ddilys, newid y norm a rhoi pobl yn gyntaf, yn cael eich cyflwyno i chi gan gwmni datblygu-pobl Cymreig blaenllaw.

Rydym yn llawn cyffro wrth gyflwyno'r ail i chi yn ein cyfres o ddigwyddiadau Ymgysylltu Mentrus Byw, yn digwydd ddydd Mercher 4 Mawrth 2020.

Mae’r gweithle bob amser yn esblygu ac mae peidio ag ymgysylltu wedi’i amcangyfrif i gostio £348 biliwn y flwyddyn i economi’r DU.

Mae sefydliadau yn cymryd camau i wella ymgysylltu cyflogeion ac yn y pendraw gwella gwaelod ei llinell, ond gyda chynifer o ddatrysiadau ymgysylltu ar-lein ac oddi ar y lein fel ei gilydd ar gael, sut mae cwmnïau’n torri trwy’r sŵn ac yn dewis y teclynnau a’r mentrau iawn sydd yn alinio a’u hethos brand, addewid cwsmer a diwylliant mewnol? A rhoi i’r cyflogeion yr hyn sydd ei angen arnyn nhw i wneud eu swyddi’n dda?

Beth am ddod i Ymgysylltu Mentrus a darganfod sut y gall cymryd ymagwedd ryngweithiol ddynol i ymgysylltu gwella perfformiad eich busnes, ysbrydoli ymddygiadau diwylliannol positif a chreu cymuned lwyddiannus o gyflogeion.

Digwyddiad BYW yw hwn yn rhoi cyfle i chi brofi aml-weithgareddau egni uchel, rhannu arfer gyda’ch cyd-arweinyddion, archwilio heriau ymgysylltu gwirioneddol a chael eich ysbrydoli i roi pobl yn gyntaf.

Siaradwyr:

Claire Smith, Moneypenny

Moneypenny yw un o’r cwmnïau mwyaf ac sy’n tyfu’n gyflymach o’i fath, gan drin 15m o alwadau a sgyrsiau yn flynyddol ar ran 13,000 o fusnesau. Wedi’i gydnabod am fwy na degawd fel Cwmni Gorau i Weithio Iddo’r Sunday Times yn ogystal â chael ei alw “the coolest” yn y DU, maen nhw’n enghraifft nodedig o greu gweithleoedd hapus. Beth am glywed Claire Smith, Llysgennad Brand yn crybwyll eu hymagwedd at ymgysylltu.

Andrea Callanan, Inspire Me

Mae gan yr Arbenigwr Llais, Andrea Callanan, angerdd dros bobl. Hi yw sefydlydd a pherchenog Inspire Me, cwmni ymgysylltu dilys yn darparu datrysiadau-pobl creadigol a gofalus ar gyfer y brandiau mwyaf. Cydnabyddir Inspire Me orau fel Sing & Inspire, sydd wedi ennill gwobrau, yn enwog am eu corau gweithle ‘Inspire’ ysgogol a gweithdai meithrin tîm llawn effaith.

Cyhoeddir rhagor o siaradwyr maes o law.

Darperir lluniaeth ysgafn.

Cliciwch fan’ma i neilltuo’ch lle.