• Dyddiad
    23rd Chwefror 2022 at 01:00yp
  • Man cyfarfod
    On-line
  • Gwesteiwr
    Women in PR Cymru
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Menywod yn PR Cymru yn cwrdd â . . . y Prif Weithredwyr sydd yn rhannu’r swyddi

Amdano’r digwyddiad hwn

Roedd mis Hydref y llynedd yn adeg carreg filltir i’r sector cyhoeddus yng Nghymru, pan gyhoeddwyd y CEO cyntaf erioed i rannu’r swydd.

Cyhoeddwyd Harriet Green a Myra Hunt fel Cyd Brif Weithredwyr y Ganolfan ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS), sydd yn gorff hyd braich Llywodraeth Cymru.

Eu gorchwyl yw arwain y sefydliad wrth iddi weithio i gefnogi Cymru i ddylunio a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus digidol gwell sy’n gweddu â’r strategaeth digidol i Gymru.

Er mai dyma’r penodiad cyntaf o’i fath yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, nid felly i Harriet a Myra, a fu’n rhannu swydd am 11 mlynedd. Dyma’r drydedd swydd iddynt ei rhannu.

Bellach, gyda dim ond ychydig o wythnosau yn y swydd newydd, bydd y ddwy yn westeion arbennig yn ein digwyddiad Menywod yn PR Cymru 2022 cyntaf, fel rhan o Wythnos Cymru Llundain.

Gobeithio gallwch ymuno â ni ar-lein ar gyfer y sesiwn amser cinio hon, pan fydd Harriet a Myra yn rhannu’u taith i’r uchaf swydd, sut wnaethant dorri ffiniau, a’u profiadau o arwain trosglwyddiadau digidol arweiniol mewn amryw o rolau – yn y BBC, y Cyngor Prydeinig, yr Adran dros yr Amgylchedd, Materion Gwledig a Bwyd (DEFRA) a bellach yn y CDPS.

Cewch ragor am Harriet a Myra drwy ymweld â gwefan y CDPS.