• Dyddiad
    9th Mawrth 2024 at 03:15yp
  • Man cyfarfod
    On-line
  • Gwesteiwr
    Society of Genealogists and GenealCymru
  • Categori
    Celfyddydau A Diwylliant

Mae achyddiaeth Gymreig a Seisnig yn heriol ac mae llawer yn ei briodoli i’r gronfa gymharol fach o gyfenwau, yn arbennig yng Nghymru, ac i’r traddodiad o ailddefnyddio’r un enwau cyntaf genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth.

Bydd achyddion yn aml yn awgrymu canolbwyntio ar leoliad neu wneud astudiaeth cyfenwau i oresgyn y rhwystrau hyn. Ond nid ydym eto wedi llwyddo datgloi’r ffyrdd y gall y traddodiad Brydeinig ynghylch enwau cyntaf fod yn fuddiol i’n hymchwil.

Yn yr araith hon, bydd Dai Davies o GenealCymru’n egluro’r hyn y galwa’n ddull Astudiaeth Enw-Cyntaf – sut mae’n gweithio a sut i gynllunio’ch un chi.

Bydd Dai yn tynnu ar enghreifftiau o’i astudiaeth ei hun o fwy na 175 o ddynion gyda’r enw Timothy, a oedd yn byw rhwng 1600 a blynyddoedd cynnar 1900, ac sydd i gyd yn olrhain eu gwreiddiau’n ôl i un ardal yn ne Cymru.

Dangosodd ymchwil Dai fod traean y dynion hyn yn dod o ddim ond un o ddau deulu rhyng-gysylltiol!

Mae canfyddiadau’i Astudiaeth Enw-Cyntaf wedi dymchwel un o waliau brics mwyaf heriol Dai, ac wedi gwthio’i goeden teulu yn ôl i flynyddoedd cynnar y 1700 – a gall y dull hwn wasanaethu fel ychwanegiad defnyddiol i’ch ymchwil teulu eich hun hefyd!