Canolfan Cig Carw Cymru
Diwrnod Cig Carw Cymru – ar y cyd ag Wythnos Cymru Llundain rydym yn cynnig disgownt arbennig o 15% ar bob archeb hyd at 7 Mawrth!
Y Ganolfan Cig Carw Cymru a redir gan deulu yw’r lle rydym yn gwerthu’n cig carw, cig eidion a chig oen ein hunain, yn ogystal â phorc, cig iâr a detholiad o gig arall.
Yn ein ‘Beacons Farm Shop’ cewch, hefyd, fara sydd wedi’i bobi’n lleol, peis a wnaed gartref, llysiau a llawer mwy. Beth am alw heibio am bopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer picnic, barbeciw neu ginio dydd Sul!
Mae’r ‘Beacons Farm Shop’ yn ymwneud â mwy na chig yn unig.
Wrth gwrs gallwch gael darn o gig o ansawdd ar gyfer ei rostio, neu selsig a wnaed gartref sydd wedi ennill gwobrau. Fodd bynnag, beth am gael yr anrheg berffaith ar gyfer unrhyw achlysur yn ein siop anrhegion lle cewch eitemau hardd i gartref o garthen croen ein ceirw a’n defaid ein hunain, canhwyllau lleol, hufenau dwylo, blancedi a llawer mwy.
Mae Canolfan Cig Carw Cymru yn hawdd dod o hyd iddo. Rydym fymryn oddi ar yr A40 ym mhentref Bwlch, hanner ffordd rhwng Crucywel ac Aberhonddu yng nghanol harddwch Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae maes parcio mawr gennym gyda digon o fannau parcio. Lleoliad gwych i groesawu pawb, gan gynnwys beicwyr, cerddwyr a cheffylau hefyd. Beth am fwynhau mynd am dro i fyny Allt yr Esgair?
Mwynhewch ein bwydlen tecawê a gynhyrchir yn lleol, gan gynnwys ein byrgers cig carw blasus, tsili, rholiau bacwn, cacen a wnaed yn lleol, te a choffi. Peidiwch ag anghofio edrych am y prydau arbennig y dydd.
Gallwch ddewis i eistedd y tu allan a mwynhau’r olygfa neu wylio’r ceirw, gwartheg a defaid yn rhodio’r caeau wrth ichi lymeitian eich coffi. Wrth i’r tymhorau newid gallwch fwynhau hufen ia lleol a seidr oer, neu gwtsho lan wrth ein tân coed gyda siocled poeth.
Mae gan ein staff cyfeillgar, parod eu cymwynas, sydd yn ‘llysgenhadon’ i’r Parc Cenedlaethol, ddigon o wybodaeth leol i’w rannu â chi a byddant yn edrych ymlaen at eich croesawu.
Ffoniwch ni – hoffem glywed oddi wrthych!
Canolfan Cig Ceirw Cymru & Beacons Farm Shop
Bwlch, Brecon, Powys, LD3 7HQ