I ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Blynyddol Cig Carw Cymreig ar 2 Mawrth – ac ar y cyd ag Wythnos Cymru Llundain, rydym yn cyflwyno cynnig arbennig ar bob archebiad o 2 - 8 Mawrth!
- Gwariwch £20 a chael 6 selsig cig carw am ddim
Yng Nghanolfan Cig Carw Cymreig y teulu byddwn yn gwerthu ein cig carw, cig eidon a chig oen ein hunain yn ychwanegol â phorc, cig iâr a detholiad o gigoedd eraill lleol o ansawdd.
Yn ein Siop Fferm y Bannau cewch hefyd bara wedi’i bobi’n lleol, peis wedi’u coginio gartref, llysiau a llawer mwy. Beth am alw heibio am bopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer picnic, barbiciw neu cinio Dydd Sul!
Mae Siop Fferm y Bannau yn golygu mwy na chig yn unig.
Wrth gwrs cewch ddarn cig o ansawdd, neu selsig arobryn wedi’u gwneud gartref. Fodd bynnag beth am ddod o hyd i’r anrheg perffaith ar gyfer unrhyw achlysur yn ein siop anrhegion lle cewch eitiemau hardd ar gyfer y cartref, megis ein rygiau crwyn carw a chrwyn defaid, canhwyllau lleol, eli dwylo, blancedi a llawer mwy.
Mae gan ein staff cynorthwyol, cyfeillgar sydd yn ‘llysgenhadon’ dros y Parc Cenedlaethol, ddigonedd o wybodaeth lleol i rannu â chi, a byddan nhw bob amser yn edrych ymlaen at eich croesawu.
Ffoniwch ni - 01874 730929 – byddai’n hyfryd glywed oddi wrthych!
Canolfan Cig Carw Cymreig & Siop Fferm y Bannau, Aberhonddu, Powys, LD3 7HQ