• Dyddiad
    20th Chwefror 2025 at 10:00yb
  • Man cyfarfod
    V&A South Kensington, Cromwell Road, London SW7 2RL
  • Gwesteiwr
    V@A
  • Categori
    Celfyddydau A Diwylliant

Fel rhan o ddathliadau Casgliad Theatr a Pherfformiadau’r V&A yn gant oed, cafodd celfi, gwisgoedd a ffilm a wnaed yn arbennig am sut a wnaed His Dark Materials eu cael i’w dangos yn yr Orielau Theatr a Pherfformiadau parhaol yn amgueddfa eiconig South Kensington y V&A.

Mae’r eitemau unigryw hyn bellach yn ffurfio rhan o Gasgliad Cenedlaethol Celfyddydau Perfformio’r amgueddfa, casgliad sydd yn gydnabyddus ac yn enwog yn rhyngwladol. Bydd yn cynnig mewnwelediad i ymwelwyr o’r broses greadigol y tu ôl i’r gyfres HBO / BBC sydd wedi’i gwobrwyo gan BAFTA a RTS.

Bydd alethiometr Lyra a gafodd ei ysbrydoli gan gwmpawdau morwrol, astrolabau sydd yn mapio’r sêr, a mecanweithiau peirianwaith cloc ar ddangos ochr yn ochr â’r wisg y bu’r actor Dafne Keen yn ei gwisgo yng ngolygfeydd agoriadol y gyfres, ynghyd â phyped ei daemon – Pantalaimon – mewn ffurf carlwm.

Yn ddideimlad ac yn gain, mae gan Mrs Coulter (Ruth Wilson) ei gwisg, sydd wedi’i brodio o sidan glas, gwisg a wisgodd yng Ngholeg Jordan ac fe’i gwelir wrth ochr y Mwnci Euraidd.

A chaiff yr awyrennwr o Texas, Lee Scoresby (Lin Manuel Miranda) ei gynrychioli yn ei got fawr lledr eiconig a’i wasgod ochr yn ochr â phyped ei ddaemon Hester, yr Ysgyfarnog o’r Arctig.

Yn cael ei dderbyn hefyd yn y casgliad mae model mawr o Iorek, y panserbjorn, a model gwifren rwyll o’i ben a ddefnyddiwyd ar gyfer y ffilmio.

Cafodd y Sbienddrych Ambr a’r Gyllell Ysgafn eu derbyn hefyd gan yr amgueddfa ochr yn ochr â ffilm o’r gweithgareddau yn y cefndir, gan ddangos sut y cafodd lluos-fydau’r gyfres deledu arobryn eu creu.

Bydd yr arddangosfa’n cynrychioli rhan fechan o waith anhygoel y tîm creadigol cyfan a fu’n gweithio yn Stiwdios Wolf Cymru yng Nghaerdydd.

Dyluniwr a Chynhyrchydd Gweithredol Joel Collins; Dyluniwr Gwisgoedd Caroline McCall; Goruchwyliwr VFX Russell Dodgson gyda Framestore and Painting Practice; aelodau tîm CFX Brian Fisher ac Eliot Gibbins.

Y Cynhyrchwyr Gweithredol ar gyfer Bad Wolf oedd Jane Tranter, Dan McCulloch, Joel Collins, Ryan Rasmussen a Julie Gardner.

Cynhyrchwyd His Dark Materials gan Bad Wolf ar y cyd â New Line Cinema i BBC One a HBO gyda chefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol.

Delwedd Peter Kelleher © The Victoria and Albert Museum, Llundain