• Dyddiad
    20th Chwefror 2023
  • Man cyfarfod
    Senedd y DU
  • Gwesteiwr
    Senedd y DU
  • Categori
    Celfyddydau A Diwylliant

Mae teithiau sain Senedd y DU yn San Steffan ar gael yn Gymraeg.

Mae'r sylwebaeth sain, gan gyflwynydd y BBC, Huw Edwards, yn dod â rhai o'r ystafelloedd mwyaf enwog yn y Senedd yn fyw, gan gynnwys Neuadd Westminster ganoloesol a Siambrau dadlau eiconig Tŷ'r Cyffredin a'r Arglwyddi.

Ymysg yr uchafbwyntiau eraill mae Neuadd San Steffan, lle bu i'r Suffragettes glymu eu hunain â chadwyni mewn protest tua dechrau'r 20fed ganrif. Hefyd y Lobi Ganolog, sef calon yr adeilad lle mae mosaic o Dewi Sant yn gwylio dros y cyhoedd wrth iddynt ymarfer eu hawl ddemocrataidd i 'lobïo' eu ASau.

Mae'r daith hunan-dywys yn cymryd rhwng 60 a 75 munud, ac mae'n cynnwys cymeriadau blaenllaw megis Mr. Speaker (Llefarydd y Tŷ) a Black Rod. Cynhelir teithiau sain bob dydd Sadwrn gydol y flwyddyn, ac ar y rhan fwyaf o ddyddiau'r wythnos yn ystod toriad y Senedd.