• Dyddiad
    3rd Mawrth 2024 at 10:00yb
  • Man cyfarfod
    Lamb Street, Spitalfields, London E1 6EA
  • Gwesteiwr
    Bwyd a Diod Cymru, Llywodraeth Cymru
  • Categori
    Bwyd A Chrefftau

Dewch i ddathlu bwyd a diod Cymru yn ein Marchnad Penwythnos Gŵyl Dewi.

Stryd Lamb, Marchnad Spitalfields, E1 6EA

Dydd Sadwrn 2 Mawrth: 10.00yb – 6.00yp

Dydd Sul 3 Mawrth: 10.00yb – 4.00yp

Mae mynediad AM DDIM - galwch heibio am awr neu arhoswch drwy’r prynhawn.

I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, rydyn ni’n mynd â chynhyrchwyr bwyd a diod gorau Cymru i farchnad fywiog yn Llundain.

Os ydych chi yn ardal marchnad enwog Spitalfields, dewch i ymuno â ni i brofi bwyd Cymreig – o bice ar y maen traddodiadol, i charcuterie sydd wedi ennill gwobrau a llawer mwy.Dewch i weld dros eich hun beth sydd gan Gymru i’w gynnig.

Rhowch gynnig ar samplau am ddim o’n tryc bwyd neu wylio arddangosfa goginio. Bydd llwyth o gynnyrch Cymreig ar gael wrth i ni ddathlu ein nawddsant mewn steil!

Edrychwn ymlaen at eich gweld – mae croeso cynnes Cymreig yn eich disgwyl!

Dydd Gŵyl Dewi Hapus!

#CaruCymruCaruBlas