• Dyddiad
    1st Mawrth 2019 at 09:30yb
  • Man cyfarfod
    Borough Market
  • Gwesteiwr
    Wales Food & Drink
  • Categori
    Bwyd A Chrefftau

Bydd Bwyd a Diod Gymreig yn llenwi’r Neuadd Farchnad boblogaidd yn Borough Market gydag amrywiaeth eang o gyflenwyr Cymreig yn gwerthu a chynnig samplau o’u hamrywiaeth rhagorol o gynnyrch yn ystod y ddau ddiwrnod.

Marchnad fwyd hynaf Llundain yw Borough Market a bu’n gwasanaethu pobl Llundain am fwy na 1,000 o flynyddoedd. Mae llawer o ddeiliaid stondinau’r farchnad yn gynhyrchwyr ei hunain. Mae stondinau’r farchnad, y siopau a’r bwytai yn adlewyrchu statws Llundain fel dinas byd eang gwirioneddol, ac mae’n darparu llwyfan i ni samplo a gwerthu cynnyrch Cymreig uchel ei ansawdd ochr yn ochr â bwydydd arbennig o wledydd eraill y byd.