• Dyddiad
    26th Chwefror 2022
  • Man cyfarfod
    Ely’s Yard, (The Old Truman Brewery), 83 Bricklane E1 6QR
  • Gwesteiwr
    Welsh Government
  • Categori
    Bwyd A Chrefftau

Mae blas Cymru yn rhywbeth y dylai pawb ei brofi!

Os ydych chi yng ngyffiniau Ely’s Yard (oddi ar Brick Lane yng nghanol yr East End) ar Chwefror 26ain a 27ain, galwch draw i gwrdd â rhai o gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru a darganfod eu cynnyrch hynod flasus, wrth i ni baratoi i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ar Fawrth 1af.

Dewch i weld ein cegin deithiol a blasu amrywiaeth eang o fwyd a diod Cymreig, o bice ar y maen traddodiadol wedi’u pobi’n ffres i Selsig Morgannwg a thameidiau Lafwr lemon.

Bydd y farchnad ddeuddydd hon i gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn llawn o gynnyrch o bob rhan o’r wlad ac ar gael i chi eu prynu i’w mwynhau gartref hefyd.