• Dyddiad
    23rd Chwefror 2022 at 09:30yb
  • Man cyfarfod
    West London
  • Gwesteiwr
    Welsh Rugby Union
  • Categori
    Chwaraeon

Dyddiad: Dydd Mercher 23 Chwefror 2022 (9.30am tan 3.30pm)
Amrediad oedran: Dan 13 i Ddan 18; (yn agored i bob chwaraewr cofrestredig Cymry ar wasgar Undeb Rygbi Cymru)
Man cyfarfod: Gorllewin Llundain (ar gyfer chwaraewyr o Lundain a’r De Ddwyreiniol);

Digwyddiad: Gwersyll Rhanbarthol Cymry ar wasgar Undeb Rygbi Cymru (URC) dan ofal ei staff a hyfforddwyr;

Gwahoddiad agored i bob chwaraewr sydd ar hyn o bryd yn gofrestredig gyda’r Cymry ar wasgar ac i chwaraewyr Cymreig cymwysedig newydd sydd angen cofrestru cyn y digwyddiad gyda URC yn www.wru.wales/exiles .

Rhaid cofrestru cyn gallu cymryd rhan. Ceir gwahoddiadau a manylion pellach drwy e-bost i bob chwaraewr cofrestredig ym mis Ionawr 2022.


Sylwer bod y calendr yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd felly cadwch i edrych am y manylion diweddaraf.

Cynlluniwyd pob digwyddiad y Cymry ar wasgar i sicrhau bod y chwaraewyr dilys yn cael y lefel briodol o brofiadau addas ar yr amser cywir.

Os ydych am geisio mynychu’r digwyddiad ‘agored’, RHAID eich bod wedi’ch cofrestru fel chwaraewr gyda’r Cymry ar wasgar drwy www.wru.wales/exilesa bod eich cais wedi’i gymeradwyo cyn y digwyddiad. Yn anffodus, nid fydd chwaraewyr, sydd yn troi fyny i’r gwersyll heb gael cadarnhad o fedru gwneud hynny, yn cael cymryd rhan.

I’n helpu i ddewis y grwpiau, cynghorir chwaraewyr i ddiweddaru’u proffiliau URC yn rheolaidd drwy www.wru.wales/exiles. Nid oes angen mewngofnodi na chyfrinair a’r un ffurflen yw ar gyfer cofrestru a diweddaru proffiliau.

Rydym yn rheolaidd yn adolygu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â COVID ond cofiwch y gallai cyfyngiadau yng Nghymru fod yn wahanol i rannau eraill y Deyrnas Unedig.